Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu Gweithredu Adferol, Pen-y-bont ar Ogwr
Sut allwn ni helpu?
Mae’r Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu gan ddefnyddio Dulliau Adferol ar gael i deuluoedd sy’n profi gwrthdaro ac sydd angen cefnogaeth i ddatrys y gwrthdaro hwnnw. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu teuluoedd i ddod dros trafferthion drwy adeiladu, cynnal a lle bo’r angen, trwsio perthnasau. Bydd aelodau teulu yn cael eu hannog i adnabod eu cryfderau, eu sgiliau ac adnoddau er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau.
Beth yw Cyfarfod Grwp Teulu?
O fewn cyfarfod grŵp teulu, gan ddefnyddio dulliau adferol, bydd aelodau o deuluoedd, ffrindiau ac unrhyw un perthnasol yn dod at ei gilydd i drafod a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr Ymarferydd yn gweithio gyda chi er mwyn eich cefnogi chi. Byddan nhw hefyd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer y cyfarfod a chyrraedd yno.
Pwy sydd a mynediad i’r gwasanaeth?
Gallwch chi gael mynediad i’n gwasanaeth os oes gan eich plentyn/person ifanc Weithiwr Cymdeithasol ei hun o fewn Gwasanaethau Plant Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal gallwch gael mynediad os ydych chi yn profi trafferthion teuluol ac angen cynllunio ar gyfer y dyfodol. Gallwch chi drafod y posibilrwydd o gael eich cyfeirio gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu gysylltu gyda ni i weld a yw’r cyfeiriad yn briodol.
Cyfeiriad Prosiect
4 Dunraven Place, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1JD
Ffyrdd o gysylltu â ni
Rhif ffôn: 01656 669354
E-bost: bcbcrafgm@tgpcymru.org.uk
Pwy sydd yn ein tîm
Melanie Thomas-Wilcox
Rheolwr Tîm