{"id":2118,"date":"2019-11-01T11:35:38","date_gmt":"2019-11-01T11:35:38","guid":{"rendered":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cymryd-rhan\/codi-arian\/events-update\/"},"modified":"2019-11-25T16:28:46","modified_gmt":"2019-11-25T16:28:46","slug":"events-update","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/cymryd-rhan\/codi-arian\/events-update\/","title":{"rendered":"Digwyddiadau Diweddar"},"content":{"rendered":"<p><strong>Diweddariad ar ddigwyddiadau 2019<\/strong><\/p>\n<p>Mae nifer o ddigwyddiadau gwych wedi bod drwy gydol 2019. Maen nhw\u2019n cynnwys y canlynol:<\/p>\n<p><strong>Noson Gwis yn The Royal<\/strong> \u2013 Mae\u2019r noson gwis blynyddol hon sy\u2019n cael ei threfnu gan ein hymddiriedolwraig Penny yn hynod boblogaidd pob amser. Bob blwyddyn mae\u2019r cwis yn llawn cwestiynau heriol a hwyliog sy\u2019n llwyddo i gasglu llawer o arian yn ogystal \u00e2 chodi ein proffil.<\/p>\n<p><strong>Mari yn nofio\u2019r Sianel<\/strong> \u2013 Cymerodd Mari, ein rheolwr t\u00eem Canolbarth a Gorllewin Cymru ran mewn digwyddiad nofio yn ei chanolfan hamdden leol yn Aberystwyth. Nofiodd Mari 22 o filltiroedd sy\u2019n cyfateb i hyd y Sianel. Dywedodd mai&#8217;r rheswm dros nofio\u2019r cyfanswm hwn o filltiroedd oedd:\u00a0 \u030fCefais fy ngeni ar yr 2il o\u2019r 2il; priodais Mark ar yr 2il o\u2019r 2il 2002. Pen-blwydd priodas fy rheini yw\u2019r 22ain o\u2019r 2il.\u030b\u00a0 Cafodd Mari lwyddiant mawr &#8211; casglodd lawer o arian a chododd ymwybyddiaeth leol o waith yr elusen.<\/p>\n<p><strong>Sioe Ffasiwn Incognito<\/strong> \u2013 Cynhaliodd t\u00eem Canolbarth a Gorllewin Cymru Sioe Ffasiwn wych a chafodd y bobl ifanc a gymerodd ran fel modelau amser gwych yn gwisgo\u2019r dillad a ddaeth o siop elusen.<\/p>\n<p><strong>Heic 100 milltir yr Ucheldir<\/strong> \u2013 Cerddodd Pete Bradley, Eiriolwr ar gyfer Gwasanaeth Eirioli Canolbarth a Gorllewin Cymru dros gan milltir ar lwybr Ffordd yr Ucheldir Gorllewin Yr Alban a dringodd i gopa Ben Nevis mewn chwe diwrnod. Casglodd dros \u00a31000 drwy wneud hyn gan godi ymwybyddiaeth o TGP Cymru.<\/p>\n<p><strong>Clasur y Cotswold<\/strong> \u2013\u00a0 Penderfynodd ein Eiriolwr Tony Holling daclo her anferth unwaith eto eleni drwy gwblhau\u2019r Cotswold Challange, sef triathlon oedd yn golygu nofio 1.1 milltir, seiclo 56 milltir a rhedeg 13.1 milltir \u2013 camp anhygoel unwaith eto!<\/p>\n<p><strong>Hanner Marathon Caerdydd<\/strong> \u2013 Eleni roedd \u2018T\u00eem TGP Cymru\u2019 yn rhedeg yn y digwyddiad hwn am y tro cynaf. Cafodd pob un ohonyn nhw amseroedd gwych, gan fwynhau&#8217;r heulwen a\u2019r torfeydd oedd yn cefnogi ar hyd y ffordd eiconig o gwmpas Caerdydd. Llwyddon nhw i godi \u00a3650 ar eu tudalen casglu arian ac mae diolch gwerthfawrogol yn mynd i Kelly, Andrew, Pete a Laura. Rydyn ni\u2019n awyddus i droi hwn yn ddigwyddiad blynyddol felly pl\u00ees ystyriwch gofrestru a\u2019i osod fel nod i chi\u2019ch hun ar gyfer 2020!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Diweddariad ar ddigwyddiadau 2019 Mae nifer o ddigwyddiadau gwych wedi bod drwy gydol 2019. Maen nhw\u2019n cynnwys y canlynol: Noson Gwis yn The Royal \u2013 Mae\u2019r noson gwis blynyddol hon [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":759,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":"","_links_to":"","_links_to_target":""},"class_list":["post-2118","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2118","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2118"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2118\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/759"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2118"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}