{"id":3865,"date":"2021-10-12T14:16:10","date_gmt":"2021-10-12T13:16:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/evaluation-of-covid-19-residential-visiting-advocacy-project\/"},"modified":"2021-10-25T10:53:04","modified_gmt":"2021-10-25T09:53:04","slug":"evaluation-of-covid-19-residential-visiting-advocacy-project","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/evaluation-of-covid-19-residential-visiting-advocacy-project\/","title":{"rendered":"Gwerthusiad o Brosiect Ymweliadau Eirioli Preswyl COVID-19"},"content":{"rendered":"<p>Rydym yn falch o lansio canfyddiadau prosiect treialu diweddar ar <a href=\"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/TGP-Cymru-Evaluation-of-COVID-19-RVA-Project-2021-final-Cym.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ymweliadau Eirioli Preswyl yng Nghymru a gynhaliwyd gan TGP Cymru yn ystod Pandemig COVID-19.<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r adroddiad hwn yn defnyddio&#8217;r ymchwil a gynhaliwyd gan Dr Anne Crowley a gyhoeddwyd yn ein hadroddiad yn 2019 <a href=\"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2020\/02\/Out-of-Sight-Out-of-Rights-Provision-of-independent-professional-advocacy-in-Childrens-Homes-in-Wales.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">&#8220;O\u2019r Golwg \u2013 Allan o Hawliau?&#8221;<\/a>. Nododd ymchwil Dr Crowley, a ariannwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, fod ymweliadau eirioli preswyl yn fesur diogelu ychwanegol i blant sy\u2019n cael eu lleoli yn y cartrefi hyn ac roedd sicrhau bod person annibynnol yn ymweld \u00e2&#8217;r cartrefi hyn yn rheolaidd yn un o argymhellion Ymchwiliad Waterhouse i gam-drin mewn cartrefi plant yn y gogledd yn 2000.<\/p>\n<p>Ar yr adeg y cynhaliwyd yr ymchwil roedd 178 o gartrefi plant yng Nghymru, 23 ohonynt yn eiddo i awdurdodau lleol ac yn cael eu rhedeg ganddynt, a 155 yn cael eu rhedeg gan ddarparwyr sector annibynnol neu wirfoddol. Mae 100% o&#8217;r cartrefi plant a weithredir gan awdurdodau lleol yn comisiynu gwasanaeth ymweliadau eirioli preswyl, ond dim ond 5-10% o\u2019r cartrefi plant a ddarperir gan y sector annibynnol &#8211; tua 22 cartref allan o 155 &#8211; sy&#8217;n darparu&#8217;r mesur diogelu ychwanegol hwn.<\/p>\n<p>Mae hyn yn anghyson iawn, gan fod cartrefi sy&#8217;n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn cael eu harchwilio&#8217;n fwy manwl gan gynrychiolwyr a swyddogion etholedig. Mae\u2019n arbennig o anghyson gan fod plant dan ofal awdurdodau lleol yn cael eu lleoli&#8217;n agosach at eu cymunedau cartref ac yn tueddu i weld eu gweithwyr cymdeithasol yn fwy rheolaidd, ond dyma&#8217;r rhai lle mae gwasanaeth Ymweliadau Eirioli Preswyl yn cael ei flaenoriaethu. I&#8217;r gwrthwyneb, mae plant a leolir mewn cartrefi plant sy&#8217;n cael eu rhedeg yn annibynnol yn tueddu i fod ymhellach oddi cartref ac yn dweud eu bod yn gweld eu gweithiwr cymdeithasol, aelodau o&#8217;u teulu a&#8217;u ffrindiau yn llai aml. O ganlyniad, mae plant yn y sector preifat yn dweud eu bod yn teimlo&#8217;n fwy ynysig ac unig.<\/p>\n<p>Ym mis Medi 2020 derbyniodd TGP Cymru Gyllid Brys gan WCVA i dreialu ymweliadau eirioli preswyl am ddim i 140 o gartrefi annibynnol ledled Cymru yn ystod y pandemig. Dim ond 37 o gartrefi a fanteisiodd ar y cynnig hwn. Ar 83 o ymweliadau, bu modd inni allu sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, ymateb i 12 mater a godwyd a chyfeirio 8 arall yn \u00f4l at yr awdurdod lleoli. Yn ystod yr ymweliadau rhithwir hyn, ymdriniodd ein heiriolwr ymweliadau preswyl \u00e2 materion gan gynnwys gofal cyffredinol yn y cartref plant a materion cyswllt ar gyfer plant a oedd wedi&#8217;u gwahanu oddi wrth eu rhieni a&#8217;u teulu.<\/p>\n<p>Er ei fod yn llwyddiant, yn anffodus ers y prosiect treialu hwn dim ond 3 o&#8217;r cartrefi sydd wedi comisiynu gwasanaeth ymweliadau eirioli preswyl parhaus. Felly, mae TGP Cymru wedi ymrwymo&#8217;n gryf i ymgyrchu dros ymweliadau eirioli preswyl fel gofyniad ar gyfer Cofrestru ac Arolygu gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Os bydd hyn yn digwydd, credwn y bydd gan gannoedd o blant a phobl ifanc yn y system gofal yng Nghymru fesur diogelu ychwanegol yn erbyn trais a cham-drin drwy gael gwybod am eu hawliau a chael rhywun i sicrhau bod eu hawliau o dan CCUHP yn cael eu cynnal.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/10\/TGP-Cymru-Evaluation-of-COVID-19-RVA-Project-2021-final-Cym.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cliciwch yma i ddarllen ein hadroddiad<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn falch o lansio canfyddiadau prosiect treialu diweddar ar Ymweliadau Eirioli Preswyl yng Nghymru a gynhaliwyd gan TGP Cymru yn ystod Pandemig COVID-19. Mae&#8217;r adroddiad hwn yn defnyddio&#8217;r ymchwil [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":3850,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"footnotes":"","_links_to":"","_links_to_target":""},"categories":[27,13],"tags":[],"class_list":["post-3865","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-covid-19-cy","category-newyddion"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3865","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3865"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3865\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3850"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3865"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3865"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3865"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}