{"id":7040,"date":"2026-06-19T10:46:10","date_gmt":"2026-06-19T09:46:10","guid":{"rendered":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/?post_type=vacancy&#038;p=7040"},"modified":"2026-06-19T10:46:10","modified_gmt":"2026-06-19T09:46:10","slug":"weinyddwr-prosiect","status":"publish","type":"vacancy","link":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/vacancy\/weinyddwr-prosiect\/","title":{"rendered":"Weinyddwr Prosiect"},"content":{"rendered":"<p>Mae TGP Cymru yn elusen yng Nghymru sy&#8217;n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac mae wedi bod yn darparu gwasanaethau ledled Cymru ers 24 mlynedd.<\/p>\n<p>Mae Gwasanaeth y T\u00eem o Amgylch y Tenantiaeth yn cefnogi pobl ifanc 16 i 25 oed yng Ngogledd Cymru sydd wedi profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, i wneud newidiadau cadarnhaol parhaol yn eu bywydau. Mae&#8217;r gwasanaeth yn helpu pobl ifanc i oresgyn yr anawsterau maen nhw&#8217;n eu profi a&#8217;u helpu i aros yn eu cartref a\/neu sicrhau lle i&#8217;w alw&#8217;n gartref.<\/p>\n<p>Rydym yn chwilio am Weinyddwr Prosiect TAtT am 10 awr yr wythnos gyda dull hyblyg o weithio drwy gydol yr wythnos. Byddwch yn cefnogi gwasanaeth y T\u00eem o Amgylch y Tenantiaeth gyda thasgau gweinyddol yn unol \u00e2 pholis\u00efau a gweithdrefnau TGP Cymru gan sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol a chytundebol y sefydliad.<\/p>\n<p>Noder mai r\u00f4l dros dro yw hon gyda chyllid cyfredol tan 31 Mawrth 2027<\/p>\n<p>Bydd deiliad y swydd yn gallu:<\/p>\n<ul>\n<li>Cynhyrchu canlyniadau o safon mewn modd sy&#8217;n canolbwyntio ar wasanaeth ac yn amserol ac wedi ymrwymo i gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt<\/li>\n<li>Gweithio&#8217;n dda gyda chydweithwyr a phartneriaid a chydnabod syniadau, safbwyntiau a chefndiroedd gwahanol eraill<\/li>\n<li>Cynllunio a threfnu gwaith a rheoli amser yn effeithiol<\/li>\n<li>Cyfathrebu&#8217;n effeithiol h.y. mynegi gwybodaeth a syniadau mewn modd clir, cryno a chywir; gwrando&#8217;n weithredol a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu.<\/li>\n<li>Bod yn agored i ddulliau a syniadau newydd, ymateb yn gadarnhaol i newid ac addasu&#8217;n gyflym i sefyllfaoedd newydd<\/li>\n<li>Chwilio am gyfleoedd ar gyfer dysgu parhaus a thwf proffesiynol.<\/li>\n<li>Defnyddio cynhyrchion Microsoft Office gan gynnwys Office 365<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bydd angen iddynt hefyd ddangos dealltwriaeth gadarn a chofnod o gyflawniad yn y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Gweinyddu o fewn amgylchedd swyddfa\/ Profiad o ddefnyddio llwyfannau rhithwir.<\/li>\n<li>Defnyddio Office 365<\/li>\n<li>Gweithredu systemau ariannol gan gynnwys monitro a rheoli cyllideb<\/li>\n<li>Delio ag aelodau&#8217;r cyhoedd ac asiantaethau eraill<\/li>\n<\/ul>\n<p>Croesewir ceisiadau gan bob rhan o&#8217;r gymuned waeth beth fo&#8217;u hoedran, anabledd neu darddiad hiliol. Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.<\/p>\n<p>Am fwy o fanylion neu i drefnu trafodaeth anffurfiol, cysylltwch \u00e2 Rheolwr y T\u00eem Kate White drwy e-bost yn kate.white@tgpcymru.org.uk neu e-bostiwch hradmin@tgpcymru.org.uk<\/p>\n<p>Mae ffurflen gais a disgrifiad swydd ar gael drwy glicio ar y dolenni isod.<\/p>\n<p>I wneud cais ffurfiol, dychwelwch ffurflen gais wedi&#8217;i chwblhau i hradmin@tgpcymru.org.uk<\/p>\n<p>(Dim ond CVs gyda ffurflen gais wedi&#8217;i chwblhau y gallwn eu derbyn).<\/p>\n<p>Noder bod TGP Cymru fel arfer yn penodi ar ddechrau&#8217;r raddfa gyflogau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":0,"template":"","meta":{"_acf_changed":false,"inline_featured_image":false,"_links_to":"","_links_to_target":""},"class_list":["post-7040","vacancy","type-vacancy","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/vacancy\/7040","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/vacancy"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/vacancy"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/vacancy\/7040\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.tgpcymru.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7040"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}