Mae TGP Cymru yn elusen yng Nghymru sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac mae wedi bod yn darparu gwasanaethau ledled Cymru ers 20 mlynedd.
Mae’r Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu Dulliau Adferol (CGTDA) ar gyfer teuluoedd sy’n profi gwrthdaro o fewn eu teulu ac sydd angen cymorth i ddod o hyd i atebion. Mae’r gwasanaeth yn helpu teuluoedd i oresgyn anawsterau trwy greu, cynnal a lle bo angen atgyweirio perthnasoedd. Bydd aelodau’r teulu yn cael eu hannog i nodi eu cryfderau, eu sgiliau a’u hadnoddau i wneud newidiadau cadarnhaol. Mae’r ardal wasanaeth bresennol yn cwmpasu awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf.
Rydym yn ceisio recriwtio Gweinyddwr Prosiect CGTDA am 15 awr yr wythnos gydag ymagwedd hyblyg at weithio dros o leiaf 3 diwrnod. Byddwch yn cefnogi Tîm Cyfarfodydd Grŵp Teulu gan ddefnyddio Dulliau Adferol gyda thasgau gweinyddol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau TGP Cymru sy’n sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol a chontractiol y sefydliad.
Noder mai rôl dros dro yw hon gyda chyllid cyfredol tan 31 Mawrth 2027.
Bydd deiliad y swydd yn gallu:
Bydd angen iddynt hefyd ddangos dealltwriaeth gadarn a record o gyflawniad yn y canlynol:
Croesewir ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’u hoedran, anabledd neu darddiad hiliol. Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Am ragor o fanylion a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Melanie Thomas-Wilcox ar 07951 557230 neu e-bostiwch [email protected]
Mae ffurflen gais a disgrifiad swydd ar gael yn www.tgpcymru.org.uk/cy/cymryd-rhan/jobs/
I wneud cais ffurfiol, dychwelwch ffurflen gais wedi’i chwblhau i [email protected]
(Dim ond gyda ffurflen gais wedi’i chwblhau y gallwn dderbyn CV).
Sylwch fod TGP Cymru fel arfer yn penodi ar ddechrau’r raddfa gyflog