Sêr Diogel Ceredigion

Safe Stars logo

Mae Sêr Diogel Ceredigion yn Fwrdd Diogelu Iau sy’n cynrychioli plant a phobl ifanc ledled y wlad. Ein nod yw hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu hawliau’n cael eu cynnal. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, eu bod yn cael gwrandawiad ac yn cael eu cynnwys mewn prosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt ar lefel leol.

Fel grŵp, mae gennym gyfle i fwydo i Fwrdd Diogelu Iau Canolbarth a Gorllewin Cymru (CADW) sydd wedyn yn bwydo i mewn i fwrdd Diogelu Uwch Canolbarth a Gorllewin Cymru (CYSUR) ar lefel ranbarthol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yma.

Fel y gallwch weld, rydym o ddifrif ynglŷn â chadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ond rydym hefyd yn gwybod sut i gael hwyl ☺

Os ydych chi’n berson ifanc sy’n byw yng Ngheredigion ac yr hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect, cysylltwch â ni trwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol:

Instagram

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion


Cyfarfod â’r SÊR sy’n cadw plant a phobl ifanc yn DDIOGEL!

Aelod Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion

Yma yn Sêr Diogel rydym yn parchu hawliau plant a phobl ifanc. Mae gan y llysgennad Sêr Diogel hwn yr hawl i aros yn ddienw neu yn ‘Incognito’. Hoffent dynnu sylw at bwysigrwydd bod yn ‘Incognito’ ar-lein er mwyn cadw’n ddiogel.

“Mae fy ngwaith gyda’r Sêr Saff yn arwyddocaol, gyda phob deilliant o’r lens yn rhoi optimistiaeth wych i mi ar gyfer y dyfodol.” – Dienw

Os hoffech chi ymuno fel aelod o Fwrdd Diogelu Iau Ceredigion, gallwch fod yn ddienw neu ddim!

Darganfyddwch ragor o wybodaeth am y prosiect yma, felly cysylltwch â ni a’n helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel.


Hopi – Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion

Mae Hopi yn aelod o’r Sêr Diogel, Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion. Mae Hopi, ynghyd â’i chydweithwyr Sêr Diogel, yn creu ac yn cynhyrchu prosiectau arloesol a chyffrous sy’n codi ymwybyddiaeth o gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ledled sir Ceredigion. Yna mae’r grŵp yn bwydo i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol (CADW) sy’n gweithio i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Gwaith pwysig iawn ☺

“Dwi wrth fy modd gyda ‘Cosplay’ a fy hoff un yw ‘Kirishima’, cymeriad ‘anime’. Rwyf hefyd yn hoffi dawnsio, yn enwedig yn fy nghegin. Rwy’n hoffi gwneud i bobl wenu i fywiogi eu diwrnod.”

Diolch Hopi am y gwaith gwych ti’n ei wneud i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ☺