Tîm o Amgylch y Denantiaeth
Sut allwn ni helpu?
Pa wasanaethau sydd gennym i’w cynnig
Mae’r Tîm o Amgylch y Denantiaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 25 mlwydd oed a oedd yn arfer derbyn gofal ac sy’n cael trafferthion yn ymwneud â’u llety/tenantiaeth. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu pobl ifanc i oresgyn y trafferthion rheiny ac yn eu helpu i gynnal eu tenantiaeth bresennol a/neu sicrhau llety mwy sicr. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu pobl ifanc drwy adeiladu, cynnal a lle bo’r angen, unioni perthnasau. Mae hyn hefyd yn eu helpu i frwydro unigedd a’u hatal rhag cael eu hynysu o’r gymuned. Bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i nodi eu cryfderau, sgiliau ac adnoddau i wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau gyda’u Hymarferydd Tîm o Amgylch y Denantiaeth ac i ddatblygu eu Cynllun Gweithredu Tîm o Amgylch y Denantiaeth eu hunain.
Beth yw Cynllun Gweithredu Tîm o Amgylch y Denantiaeth?
Mae Cynllun Gweithredu Tîm o Amgylch y Denantiaeth yn deillio o gyfarfod Tîm o Amgylch y Denantiaeth lle mae’r person ifanc, pobl bwysig yn eu bywydau a gweithwyr proffesiynol yn dod at ei gilydd i nodi’r camau angenrheidiol sydd angen eu cymryd i helpu’r person ifanc i sicrhau a chynnal sefydlogrwydd a chynyddu eu rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer y dyfodol.
Pwy all gael fanteisio ar y Gwasanaeth?
Gall pobl ifanc rhwng 18 a 25 mlwydd oed yng Nghonwy a Wrecsam sydd wedi derbyn gofal fanteisio ar y gwasanaeth os ydyn nhw:
- Mewn tenantiaeth newydd
- Mewn perygl o golli eu tenantiaeth
- Wedi colli tenantiaeth
- Yn ddigartref ar hyn o bryd
Cyfeiriad Prosiect
Ystafell 2, Penrhos Manor, Oak Drive, Bae Colwyn, Conwy, LL22 7YW
Ffyrdd o gysylltu â ni
Rhif ffôn: 01492 550170
Ebost: tatt@tgpcymru.org.uk
Pwy sydd yn ein tîm
Sophie Ann Morris
Rheolwr Tîm
Emma Griffiths
Ymarferydd