Digwyddiadau Diweddar

Diweddariad ar ddigwyddiadau 2019

Mae nifer o ddigwyddiadau gwych wedi bod drwy gydol 2019. Maen nhw’n cynnwys y canlynol:

Noson Gwis yn The Royal – Mae’r noson gwis blynyddol hon sy’n cael ei threfnu gan ein hymddiriedolwraig Penny yn hynod boblogaidd pob amser. Bob blwyddyn mae’r cwis yn llawn cwestiynau heriol a hwyliog sy’n llwyddo i gasglu llawer o arian yn ogystal â chodi ein proffil.

Mari yn nofio’r Sianel – Cymerodd Mari, ein rheolwr tîm Canolbarth a Gorllewin Cymru ran mewn digwyddiad nofio yn ei chanolfan hamdden leol yn Aberystwyth. Nofiodd Mari 22 o filltiroedd sy’n cyfateb i hyd y Sianel. Dywedodd mai’r rheswm dros nofio’r cyfanswm hwn o filltiroedd oedd:  ̏Cefais fy ngeni ar yr 2il o’r 2il; priodais Mark ar yr 2il o’r 2il 2002. Pen-blwydd priodas fy rheini yw’r 22ain o’r 2il.̋  Cafodd Mari lwyddiant mawr – casglodd lawer o arian a chododd ymwybyddiaeth leol o waith yr elusen.

Sioe Ffasiwn Incognito – Cynhaliodd tîm Canolbarth a Gorllewin Cymru Sioe Ffasiwn wych a chafodd y bobl ifanc a gymerodd ran fel modelau amser gwych yn gwisgo’r dillad a ddaeth o siop elusen.

Heic 100 milltir yr Ucheldir – Cerddodd Pete Bradley, Eiriolwr ar gyfer Gwasanaeth Eirioli Canolbarth a Gorllewin Cymru dros gan milltir ar lwybr Ffordd yr Ucheldir Gorllewin Yr Alban a dringodd i gopa Ben Nevis mewn chwe diwrnod. Casglodd dros £1000 drwy wneud hyn gan godi ymwybyddiaeth o TGP Cymru.

Clasur y Cotswold –  Penderfynodd ein Eiriolwr Tony Holling daclo her anferth unwaith eto eleni drwy gwblhau’r Cotswold Challange, sef triathlon oedd yn golygu nofio 1.1 milltir, seiclo 56 milltir a rhedeg 13.1 milltir – camp anhygoel unwaith eto!

Hanner Marathon Caerdydd – Eleni roedd ‘Tîm TGP Cymru’ yn rhedeg yn y digwyddiad hwn am y tro cynaf. Cafodd pob un ohonyn nhw amseroedd gwych, gan fwynhau’r heulwen a’r torfeydd oedd yn cefnogi ar hyd y ffordd eiconig o gwmpas Caerdydd. Llwyddon nhw i godi £650 ar eu tudalen casglu arian ac mae diolch gwerthfawrogol yn mynd i Kelly, Andrew, Pete a Laura. Rydyn ni’n awyddus i droi hwn yn ddigwyddiad blynyddol felly plîs ystyriwch gofrestru a’i osod fel nod i chi’ch hun ar gyfer 2020!