Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu Gweithredu Adferol

Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu Gweithredu Adferol

Sut allwn ni helpu?

Mae’r Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu gan ddefnyddio Dulliau Adferol ar gael i deuluoedd sy’n profi gwrthdaro ac sydd angen cefnogaeth i ddatrys y gwrthdaro hwnnw. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu teuluoedd i ddod dros trafferthion drwy adeiladu, cynnal  a lle bo’r angen, trwsio perthnasau. Bydd aelodau teulu yn cael eu hannog i adnabod eu cryfderau, eu sgiliau ac adnoddau er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau.

Beth yw Cyfarfod Grwp Teulu?

O fewn cyfarfod grŵp teulu, gan ddefnyddio dulliau adferol, bydd aelodau o deuluoedd, ffrindiau ac unrhyw un perthnasol yn dod at ei gilydd i drafod a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr Ymarferydd yn gweithio gyda chi er mwyn eich cefnogi chi. Byddan nhw hefyd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer y cyfarfod a chyrraedd yno.

Pwy sydd a mynediad i’r gwasanaeth?

Gallwch chi gael mynediad i’n gwasanaeth os oes gan eich plentyn/person ifanc Weithiwr Cymdeithasol ei hun o fewn Gwasanaethau Plant ym Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot neu Sir Benfro ac os ydych chi yn profi trafferthion teuluol ac angen cynllunio ar gyfer y dyfodol. Gallwch chi drafod y posibilrwydd o gael eich cyfeirio gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu gysylltu gyda ni i weld a yw’r cyfeiriad yn briodol.

Gwasanaeth Cyfarfod Grŵp Teulu Dulliau Adferol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Rhieni sydd wedi Gwahanu a Theuluoedd mewn Cyfraith Breifat

I rieni sydd wedi gwahanu neu sy’n cael anhawster yn eu perthynas â’i gilydd, rydym yn cynnig gwasanaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot sy’n cefnogi teuluoedd i weithio gyda’i gilydd er budd gorau eu plant. Mae’r gwasanaeth yn dod â’r teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol perthnasol at ei gilydd i wella cyfathrebu a datblygu cynlluniau ymarferol ar gyfer y dyfodol.

Beth rydym yn gobeithio ei gyflawni?

  • Atal chwalu perthynas teulu cyfan
  • Ail uno teuluoedd lle bu gwahanu
  • Gwella cyfathrebu rhwng rhieni a gofalwyr
  • Cefnogi a gwella cyfathrebu rhwng rhieni a gofalwyr sydd wedi gwahanu.

Darllen mwy >


Cyfeiriad Prosiect

4 Dunraven Place, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1JD

Ffyrdd o gysylltu â ni

Rhif ffôn: 0330 236 7001
E-bost: [email protected]


Pwy sydd yn ein tîm

Melanie Thomas-Wilcox
Rheolwr Tîm
Angie Felkin-Heins
Uwch Gydlynydd CGTGA
Vicky Thomson
Uwch Gydlynydd CGTGA
Sabrina De Courcy
Uwch Gydlynydd CGTGA
Gail Humphreys
Cydlynydd CGTGA
Tina Bryne
Uwch Gydlynydd CGTGA
Rebecca Kelly
Cydlynydd CGTGA
Cheryl Martin
Cydlynydd CGTGA
Ali Neyland
Cydlynydd CGTGA