Rhaglen Ffoadur a Lloches

Sut allwn ni helpu?

Pa wasanaethau sydd gennym i’w cynnig

Mae Rhaglen Ffoadur a Lloches Lloches TGP Cymru yn cynnig dull cyfannol ar sail hawliau i gefnogi a grymuso pobl ifanc. 

Rydym yn cynnig: 

  • Eiriolaeth broffesiynol, annibynnol, arbenigol
  • Mentora
  • Llesiant/cwnsela grŵp
  • Cyfranogiad
  • Grŵp ieuenctid Belong
  • Cynllun Mentora Cymheiriaid
  • Cyngor ac arweiniad i weithwyr proffesiynol
  • Hyfforddiant pwrpasol
  • Tripiau preswyl

Cymhwysedd: 

  • Oed: 11 i 25
  • Yn ceisio lloches, â statws ffoadur neu ARE. Yn cynnwys pobl ifanc dan 18 oed ar eu pen eu hunain
  • O Hong Kong â statws Gwladolyn Prydain (Tramor)

Prosiectau a Gwasanaethau ar hyn o bryd

Prosiect Belong

Prosiect 4 mlynedd a ariennir gan y Loteri Fawr, ar gyfer pobl ifanc yn ceisio lloches a ffoaduriaid 14-24 oed.

Nod Belong yw helpu pobl ifanc  i ddatblygu hyder a chadernid ac ymdrechu i fod “y gorau y gallant fod”, drwy gynnig mannau diogel i gwrdd, dysgu sgiliau newydd, ehangu gorwelion a chyfleoedd i ddeall ac ymgyfarwyddo â systemau a diwylliant yng Nghymru.

Rydym yn darparu camau pontio at gyfleoedd mwy cyffredinol ar gyfer pobl ifanc a’u cefnogi i gymryd rhan lawn.

Mae’n cynnwys:

  • Eiriolaeth arbenigol – nodi a datrys problemau.
  • Mentora – i osod nodau a gweithio i gyflawni e.e. amcanion addysgol.
  • Llesiant/cwnsela grŵp
  • Cymorth llesiant unigol
  • Cyfranogiad – cyfleoedd grŵp ac unigol
  • Grŵp ieuenctid wythnosol, 1630 – 1830 yng Nghaerdydd
  • Gweithgareddau yn ystod gwyliau’r haf mewn amrywiaeth o ardaloedd
  • Sesiynau Zoom o bell i gyrraedd pobl ifanc o ardaloedd gwledig
  • Gweithdai i bobl ifanc.

Gwasanaeth Ceiswyr Lloches Cymru

Mae TGP Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau o’r sector ffoaduriaid gan gynnwys: WRC, Asylum Justice, DPIA, BAWSO ac EYST ar y Gwasanaeth newydd hwn a ariennir gan Grant Cynhwysiad Llywodraeth Cymru.

Rydym yn darparu:

  • Eiriolaeth arbenigol i bobl ifanc 11-25 oed.
  • Asesiadau Oedran – Cefnogi pobl ifanc drwy’r broses.
  • Cynllun Mentora Cymheiriaid yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc gefnogi eu cymheiriaid.

Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn caniatáu i ni ategu’r amrywiaeth o sgiliau a phrofiad a ddatblygwyd yn ystod y Rhaglen Hawliau Ceiswyr Lloches 5 mlynedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, gan gynnwys cefnogi pobl ifanc drwy Asesiadau Oedran.

Mae Gwasanaeth Ceiswyr Lloches Cymru ar gyfer ffoaduriaid gan gynnwys y rhai hynny sy’n cyrraedd yn rhan o Gynllun Adsefydlu a phobl ifanc o Hong Kong â Statws Gwladolyn Prydain (Tramor) yn ogystal â’r rhai hynny sy’n Ceisio Lloches.


Meddwl Ymlaen

Ar 12 Mai, cyhoeddodd y Loteri Fawr yng Nghymru y Partneriaethau llwyddiannus a fydd yn gweithio gyda phobl ifanc i gyd-gynhyrchu prosiectau i ddatblygu gwasanaethau i helpu i ddatblygu cadernid a gwrthsefyll problemau iechyd meddwl.

Mae Rhaglen Ffoadur a Lloches TGP Cymru wrth eu boddau i fod yn rhan o Bartneriaeth dan reolaeth Oasis Cardiff sy’n cynnwys Gwasanaeth Cynhwysiant Caerdydd a’r Fro.


Sefydliad Partner Senedd Ieuenctid Cymru

Mae Rhaglen Ffoadur a Lloches TGP Cymru yn bartneriaid gyda Senedd Ieuenctid Cymru unwaith eto am trydydd dymor Senedd Ieuenctid Cymru 2025-27.

Yn ystod y tymor cyntaf, merch a oedd yn ffoadur oedd ein haelod o Senedd Ieuenctid Cymru a gyrhaeddodd Cymru yn rhan o’r Cynllun Adsefydlu o Syria. Gwnaeth Hasna fwynhau y profiad yn fawr a dywedodd ei fod wedi ei helpu i deimlo’n fwy hyderus.

Ar gyfer yr ail dymor mae gennym ddau aelod o’r Senedd: Sultan yn y de ac Amir yn y gogledd.

Mae Plant yng Nghymru – y sefydliad ambarél ar gyfer cyfranogi yng Nghymru – sy’n cynnal Bwrdd Prosiect Pobl Ifanc a Rhaglen Ffoadur a Lloches yn falch o gael safbwyntiau ein pobl ifanc wedi’u cynrychioli gan Elvis.

Hyfforddiant:

Gweithio gyda phlant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches

  • Hyfforddiant codi ymwybyddiaeth
  • Hyfforddiant eiriolaeth / ymgyrchu ar gyfer ceiswyr lloches
  • Asesiadau oedran

Cysylltwch â Lee Evans i ymholi


Cyfeiriad Prosiect

Prif Swyddfa TGP, Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ

Ffyrdd o gysylltu â ni

We welcome referrals or enquiries from young people, professionals or anyone involved in the care and support of young people, including Schools. 

Gellir atgyfeirio dros y ffôn neu ar e-bost i Lee Evans.

[email protected]
Ff: 07957 472070


Pwy sydd yn ein tîm

Lee Evans
Rheolwr
Kate Rough
Gweithiwr Cyfranogi
Ruth Jeanes
Gweinyddwr Prosiect
Alice Payne
Gweithiwr Achos Eiriolaeth WSS
Hasminder Aulakh
Gweithiwr Achos Eiriolaeth WSS
Dom Wright
Gweithiwr Achos Eiriolaeth WSS
Bori Hardi
Gweithiwr Achos Eiriolaeth WSS
Martha Ako
Gweithiwr Cyfranogi
Noura Almegrahi
Gweithiwr Cyfranogi / Eiriolwr
Robyn Vaughan
Gweinyddwr Prosiect