Rydym yn cynnig Gwasanaethau Eiriolaeth Proffesiynol i blant a phobl ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Rydym hefyd yn darparu eiriolaeth i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 18 mlwydd oed sydd am fynegi pryder neu wneud cwyn mewn perthynas â gwasanaeth y GIG.
Beth yw Eiriolaeth?
Mae eiriolaeth yn golygu cael rhywun i wrando arnoch chi. Gall eich helpu i ddweud beth rydych chi’n ei feddwl a sut rydych chi’n teimlo wrth y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am eich bywyd.
Mae ein gwasanaeth eiriolaeth yn annibynnol – nid ydym yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ein meini prawf (dyma’r rhan ffurfiol):
Plentyn Mewn Gofal
Plentyn sydd Angen Gofal a Chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Plant a Phobl Ifanc sy’n Gadael Gofal – hyd at 21 mlwydd oed (25 mlwydd oed os ydynt mewn addysg bellach)
Plant a Phobl Ifanc sy’n gwneud sylw neu’n gwneud cwyn ynghylch gwasanaethau’r GIG
Sut allaf i gysylltu?
Yr ydym yn gyfeillgar a hawdd siarad â ni, ffoniwch ni ar y rhif isod.
Mae gennym ffurflenni atgyfeirio hawdd i’w defnyddio ar gyfer rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ac rydym yn derbyn atgyfeiriadau dros y ffôn hefyd.
Plant a phobl ifanc – gallwch ffonio’r rhif ffôn rhad ac am ddim (isod) a gofyn am eiriolwr – mae mor hawdd â hynny – dim angen unrhyw ffurflenni!
Ymweliadau Annibynnol
Hefyd mae gennym Wasanaeth Ymweld Annibynnol i blant a phobl ifanc sydd mewn gofal ac nad ydynt mewn unrhyw gysylltiad gyda’u teulu, neu sydd mewn cysylltiad cyfyngedig â’u teulu. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’n Cydlynydd Ymweliadau Annibynnol, Jess Owen ar 07986 987559 a gweld ein llenyddiaeth yma.
Grwpiau Cyfranogiad
Rydym yn cynnig rhedeg dau grŵp cyfranogiad ar ddiogelu – Sêr Saff yng Ngheredigion a CADW sydd yn Fwrdd Diogelu Plant Iau rhanbarthol sy’n cwmpasu siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae’r holl grwpiau’n agored i bobl ifanc 11 mlwydd oed a throsodd. Mae’r grwpiau’n cyfarfod tair neu pedair gwaith y flwyddyn i siarad am bynciau diogelu sy’n bwysig iddyn nhw ac maen nhw’n rhannu’r wybodaeth hon gyda phobl fel y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu er mwyn helpu i lywio eu gwaith.
Nid cyfarfod a siarad yn unig mae’r grwpiau. Maen nhw hefyd yn trefnu ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwych, gan gynnwys penwythnosau preswyl, gwneud DVDs a rapiau!
TGP Cymru
Cardiff University Social Science Research Park (SPARK)
sbarc
Heol Maindy
Caerdydd
CF24 4HQ
TGP Cymru yw enw gwaith Tros Gynnal Plant.
Rhif Elusen Gofrestredig 1099878 Wedi cofrestru fel cwmni cyfyngedig drwy warant rhif 04422485 (Cymru a Lloegr).
Swyddfa Gofrestredig: Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ – 02920396974 Dyluniwyd gan UGD