Helo, diolch i chi am ymweld â gwefan TGP Cymru.
Diweddariad o ran Covid-19
Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth pandemig Covid-19 wneud i TGP Cymru adolygu ein dull o ddarparu gwasanaethau. Rydym wedi codi i’r her ac yn falch o fod wedi gallu cynnig ein hystod lawn o wasanaethau (ynghyd â rhai gwasanaethau newydd) drwy gydol y pandemig.
Wrth i ni symud ymlaen, bydd ein staff yn parhau â’n dull cyfunol sefydledig o ddarparu gwasanaethau, gan weithio’n uniongyrchol ac yn rhithiol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i ddiwallu eu hanghenion yn y ffordd orau.
Bydd ein staff hefyd yn dilyn ein polisi newydd o weithio o unrhyw le, sy’n golygu y byddant yn gweithio gartref lle bo’n bosibl ond hefyd yn elwa o’r cyfle i weithio o’r swyddfa pan fo angen.
Mae TGP Cymru yn falch iawn o fod wedi cadw ein staff a’r plant, pobl ifanc a theuluoedd rydym yn eu cefnogi yn ddiogel yn ystod pandemig Covid-19, tra’n parhau i ddarparu gwasanaethau o safon.
I gysylltu ag un o’n gwasanaethau, dilynwch y tab ‘Gwasanaethau’ uchod a dewiswch eich gwasanaeth dewisol. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt a/neu ffurflenni atgyfeirio ar-lein fel hyn. A chofiwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein gwasanaethau neu unrhyw gwestiynau am sut y gallwn ni helpu.