Hanes

TGP Cymru yw’r brif Elusen Hawliau Plant yng Nghymru, sy’n cefnogi ac yn cynrychioli plant a phobl ifanc agored i niwed drwy amrywiaeth o brosiectau, hyfforddiant ac ymgyrchu.

Lansiwyd TGP yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi yn 2002 gan y Gweinidog Plant, Jane Hutt AC i barhau gyda’r gwaith hanfodol o gefnogi a diogelu plant a phobl sy’n agored i niwed pan wnaeth y Gymdeithas Plant dynnu’n ôl o Gymru.