Mae TGP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau eiriolaeth a chymorth annibynnol i blant a phobl ifanc diamddiffyn a’u teuluoedd ledled Cymru ers 24 blynedd.
Ydych chi’n rhywun a allai gymryd ychydig o amser i ymweld â chartref plant preswyl bob mis, i gefnogi plant a phobl ifanc i godi llais/mynegi eu barn a’u dymuniadau am faterion sy’n effeithio arnynt? Os felly, mae angen i chi.
Mae ymweliad fel arfer yn para awr, bob mis ac yn cael ei gynnal ar ôl oriau ysgol. Rydym yn talu costau teithio ac amser. Bydd pob ymweliad, amser teithio a gweinyddol cysylltiedig fel arfer yn cymryd hyd at 4 awr y mis. Rydym yn chwilio am bobl a allai ymweld â nifer o gartrefi plant yn fisol yn rheolaidd, yn dibynnu ar leoliad ac argaeledd. Trafodir hyn ymhellach yn y cyfweliad.
Mae gwaith achlysurol yn cyfeirio at gyflogaeth hyblyg heb oriau gwarantedig. Cynigir oriau achlysurol yn unol ag anghenion y prosiect.
Am ragor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Amanda Cox, Arweinydd Datblygu -drwy e-bostio [email protected] neu [email protected]
Mae croeso i geisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u hoedran, anabledd neu darddiad hiliol. Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae ffurflen gais a disgrifiad swydd ar gael drwy glicio ar y dolenni isod.
Dychwelwch ffurflenni cais drwy e-bost i [email protected]
(Gallwn ond derbyn CVs gyda Ffuflen Gais wedi ei gwblhau).
Noder fod TGP Cymru fel arfer yn periodi as gychwyn y raddfa cyflog