| Mae TGP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau eiriolaeth a chymorth annibynnol i blant a phobl ifanc diamddiffyn a’u teuluoedd ledled Cymru ers 25 blynedd.
Mae gwasanaeth ‘Team Around the Tenancy’ yn helpu pobl ifanc i oresgyn yr anawsterau y maent yn eu hwynebu, gan eu cynorthwyo i aros yn eu cartref a/neu sicrhau lle i’w alw’n gartref. Mae’r gwasanaeth yn cefnogi pobl ifanc drwy adeiladu a chynnal perthnasoedd – a’u hatgyweirio pan fo angen. Mae hyn hefyd yn helpu i fynd i’r afael ag unigedd ac unigrwydd yn y gymuned. Gan ddefnyddio eu profiad personol o’r system ofal a/neu ansefydlogrwydd o ran tai, mae Gweithwyr Ymgysylltu yn cynnig cymorth gan gyfoedion i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, ac yn cynorthwyo ‘ Tîm o Amgylch y Denantiaeth ‘ i ymgysylltu â phobl ifanc. Byddant yn gwneud galwadau ac yn ymweld â phobl ifanc i wirio sut maent yn dod ymlaen, yn ogystal â helpu i hwyluso gweithdai a gweithgareddau. Yr ydym yn chwilio am Gweithiwr ymgysylltu i ccefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, sydd wedi profi neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, i wneud newidiadau cadarnhaol parhaol yn eu bywydau. Sylwch fod hwn yn rôl dros dro, gyda chyllid ar gael tan 31/3/2027. I drefnu trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Rheolwr Tîm Kate White yn [email protected] neu e-bostiwch [email protected] Croesewir ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’u hoedran, anabledd neu hil. Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Mae ffurflen gais a disgrifiad swydd ar gael drwy glicio ar y dolenni isod. I wneud cais ffurfiol, dychwelwch ffurflen gais wedi’i chwblhau i [email protected] (Gallwn ond derbyn CVs gyda Ffuflen Gais wedi ei gwblhau). Noder fod TGP Cymru fel arfer yn periodi as gychwyn y raddfa cyflog. Rhif Elusen 1099878 |