Advocacy Services

Eiriolwr Rhiant Annibynnol – Gogledd

Mae TGP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd bregus, ar draws Cymru am 23 mlynedd.

Darparwn Wasanaethau Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol i blant a rhieni mewn tri ar ddeg o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru.

Rydym yn recriwtio am Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol.

EIRIOLWR RHIANT PROFFESIYNOL ANNIBYNNOL

£27,000 y flwyddyn dros Ogledd Cymru – Ynys Môn, Conwy a Gwynedd (wedi’i leoli o gartref gyda theithio ar draws yr ardal)

Llawn amser 37 awr

( Dros dro tan 31 Mawrth 2027– yn amodol ar gyllid pellach)

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â diddordeb mewn hawliau blant, profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phlant and phobol ifanc, a chyda dealltwriaeth dda o systemau a phrosesau gwasanaethau cymdeithasol.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd allu dangos gwerthoedd TGP Cymru. Mae gwerthoedd yn bwysig i ni, ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n credu yn ein gwerthoedd gymaint ag yr ydym ni.

Os hoffech chi fod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i wella deilliannau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn awyddus i weithio i sefydliad blaengar, gwnewch gais.

Am ragor o fanylion ac am sgwrs anffurfiol, cysyllter â  Zoe Morgan ar 07572755130 neu e-bostiwch [email protected]

I wneud cais ffurfiol, dychwelwch ffurflen gais wedi’i chwblhau i [email protected]

Cyflog: £27000
Oriau: 37 hours per week
Dyddiad cau: 27/04/2026

Llawrlwythiadau y swydd wag