Advocacy Services

SWYDDOG CYFRANOGIAD

Mae TGP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd bregus, ar draws Cymru am 24 mlynedd.

Darparwn ystod o wasanaethau ledled Cymru, gan gynnwys Gwasanaethau Eirioli Proffesiynol Annibynnol i blant a rhieni, cyfarfodydd grŵp teuluol a chyfleoedd i gymryd rhan.

Swyddog Cyfranogiad i weithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Swyddog Cyfranogiad

£27,000 y flwyddyn pro rata ( £8,027.03 y flwyddyn)

Rhan amser 11 awr

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â diddordeb mewn hawliau blant, profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phlant and phobol ifanc, a chyda dealltwriaeth dda o arferion cyfranogol, diogelu a rhianta corfforaethol.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd allu dangos gwerthoedd TGP Cymru. Mae gwerthoedd yn bwysig i ni, ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n credu yn ein gwerthoedd gymaint ag yr ydym ni.

Os hoffech chi fod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i wella deilliannau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn awyddus i weithio i sefydliad blaengar, gwnewch gais.

Darperir hyfforddiant.

Am ragor o fanylion ac am sgwrs anffurfiol, cysyllter â  Angie Felkin-Heins ar 07930 204 582 neu e-bostiwch [email protected]

Mae ffurflen gais a disgrifiad swydd ar gael i’w lawrlwytho isod.

I wneud cais yn ffurfiol, dychwelwch ffurflen gais wedi’i chwblhau i [email protected] erbyn y dyddiad cau.

(Dim ond CVs sy’n dod gyda ffurflen gais wedi’i chwblhau y gallwn eu derbyn).

Sylwch fod TGP Cymru fel arfer yn penodi ar ddechrau’r raddfa gyflog.

 Y DYDDIAD CAU ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais: 12 o gloch, 13.11.26

DYDDIAD Y CYFWELIAD: 24.11.26

 

Cyflog: £8,027.03 y flwyddyn (£27,000 pro rata)
Oriau: 11
Dyddiad cau: 13/11/2026

Llawrlwythiadau y swydd wag