Mae TGP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau eiriolaeth a chymorth annibynnol i blant a phobl ifanc diamddiffyn a’u teuluoedd ledled Cymru ers 18 blynedd.
Ymunwch â thîm Teithio Ymlaen TGP Cymru sy’n gweithio ledled Cymru ochr yn ochr â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae Teithio Ymlaen yn darparu cyngor ac eiriolaeth sy’n cefnogi pobl i gael mynediad at eu hawliau a’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a mynd i’r afael â gwahaniaethu. Mae’r tîm yn gweithio gartref ac yn gweithio’n hyblyg mewn amrywiaeth o leoliadau gyda chymysgedd o weithio rhithwir ac wyneb yn wyneb. Mae’r rôl yn barhaol gyda chyllid ar gael ar hyn o bryd tan fis Medi 2027.
Rydym hefyd yn cynnal gwasanaeth cyngor i deuluoedd Roma yr UE ledled Cymru i wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn y DU, prosiect cefnogi gofalwyr a phrosiectau eiriolaeth cymunedol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Rhaid i ymgeiswyr hefyd allu dangos gwerthoedd TGP Cymru. Mae gwerthoedd yn bwysig i ni, ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n credu yn ein gwerthoedd gymaint ag yr ydym ni.
Mae croeso i geisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u hoedran, anabledd neu darddiad hiliol.
Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Pecyn cais o www.tgpcymru.org.uk, e-bost: [email protected]
(Gallwn ond derbyn CVs gyda Ffuflen Gais wedi ei gwblhau).
Noder fod TGP Cymru fel arfer yn periodi as gychwyn y raddfa cyflog.
Rhif Elusen 1099878