Neges gan Sêr Diogel

Apr 2, 2020

Yn ddiweddar, cyfarfu Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, Sêr Diogel, ar Zoom i siarad am sut y gall plant a phobl ifanc aros yn ddiogel yn yr amseroedd anodd hyn. Fe wnaethant hefyd drafod syniadau am brosiectau yr hoffent eu cynnal ar-lein i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd gymryd rhan ynddynt yn y dyfodol, gyda chymorth TGP Cymru.

Mae’r Bwrdd Diogelu Iau eisiau rhoi neges y maen nhw’n teimlo sy’n  bwysig iawn i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd:

AROS ADREF, AROS YN DDIOGEL, ACHUB BYWYD

Cadwch lygad allan am eu digwyddiadau a’u gweithgareddau ar-lein yn y dyfodol!