Ym mis Awst 2002, lansiwyd TGP Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan y Gweinidog Plant ar y pryd, Jane Hutt. Dau ddegawd yn ddiweddarach dychwelwyd i’r Eisteddfod Genedlaethol gyda Jane Hutt i ddechrau ein dathliad o ugain mlynedd anhygoel o gefnogi pobl ifanc a theuluoedd.
Yn y misoedd ers hynny, mae ein holl dimau wedi bod yn dathlu ein pen-blwydd gyda’i gilydd a gyda’r bobl ifanc maen nhw’n eu cefnogi, gan arwain at un digwyddiad mawr yn ein prif swyddfa newydd.
Tynnwyd lluniau yn llawer o’n digwyddiadau ac rydym wedi creu sioe sleidiau:
Diolch am 20 mlynedd o gefnogaeth!