Tîm Cyfarfod Grŵp Teulu yn datgelu Ffilm Animeiddio mewn Te Prynhawn

Oct 7, 2022

Ar 30 Medi, cynhaliodd y tîm Cyfarfod Grŵp Teulu Dulliau Adferol de prynhawn mewn digwyddiad TGP lle dangoswyd eu ffilm animeiddio newydd sbon am y tro cyntaf. Mae’r ffilm fer, gan ein partneriaid UGD, yn gyflwyniad i bobl ifanc a theuluoedd i’r Cyfarfod Grŵp Teulu.

Cafodd y fideo dderbyniad da yn y digwyddiad lle’r oedd teuluoedd y mae’r tîm Cyfarfod Grŵp teulu wedi gweithio gyda nhw yn bresennol ynghyd â’r gwesteion arbennig Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney CBE ac Aelod o’r Senedd Sarah Murphy AS.

I ddangos eu gwerthfawrogiad am y cyfraniadau gan y tîm Cyfarfod Grŵp Teulu, cyflwynodd y teuluoedd yr oedd y gwasanaeth wedi bod o fudd iddynt anrhegion i’r tîm ar ôl i’r ffilm gael ei dangos.

Dyma’r ail dro i lawer o’r tîm Grŵp Cyfarfod teulu fod gyda’i gilydd – rhai ohonyn nhw’n cwrdd am y tro cyntaf. Yn anaml iawn y mae’r tîm, sydd wedi gweithio gyda 1695 o deuluoedd ledled Cymru, yn cael cyfle i gwrdd gan eu bod yn gweithio dros y wlad.

 

Roedd y digwyddiad yn gyfle i aelodau’r tîm ddathlu lansiad eu fideo newydd ac edmygu’r gwaith y maen nhw wedi’i wneud dros y blynyddoedd ac hefyd yn gyfle gwerthfawr i’r tîm greu cysylltiadau personol.