Advocacy Services

Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol

Mae TGP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd bregus, ar draws Cymru am 24 mlynedd.

Darparwn Wasanaethau Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol i blant a rhieni mewn tri ar ddeg o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol parhaol i weithio ym Mhowys.

Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol

£27,000 – £30,100 y flwyddyn pro rata

Yn gweithio dros Powys

Rhan-amser 15 awr

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â diddordeb mewn hawliau blant, profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phlant and phobol ifanc, a chyda dealltwriaeth dda o systemau a phrosesau gwasanaethau cymdeithasol.

Rhaid i ymgeiswyr hefyd allu dangos gwerthoedd TGP Cymru. Mae gwerthoedd yn bwysig i ni, ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n credu yn ein gwerthoedd gymaint ag yr ydym ni.

Os hoffech chi fod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i wella deilliannau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn awyddus i weithio i sefydliad blaengar, gwnewch gais.

Croesewir ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r  gymuned waeth beth fo’u hoedran, anabledd neu hil. Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Am ragor o fanylion ac am sgwrs anffurfiol, cysyllter â  Kath De Filippo ar 07957472080 neu e-bostiwch [email protected]

Dychwelwch ffurflenni cais drwy e-bost i [email protected]

Y DYDDIAD CAU ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais: 12 o gloch, 18.05.2026

Noder bod TGP Cymru fel arfer yn penodi ar gychwyn y raddfa cyflog.

 

Cyflog: £27,000 - £30,100 y flwyddyn pro rata
Oriau: 15 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 18/05/2026

Llawrlwythiadau y swydd wag