Gwasanaethau Eiriolaeth Rhieni TGP Cymru

Gwasanaethau Eiriolaeth Rhieni TGP Cymru

Sut allwn ni helpu?

Beth yw Eiriolaeth Rhieni?

Nodau cyffredinol Eiriolaeth Rhieni yw:

  • -lleihau nifer y plant sy’n mynd i mewn i’r system ofal
  • i gadw teuluoedd gyda’i gilydd.

Mae eiriolaeth rhieni yn rhoi llais a dewis i rieni, drwy gefnogi rhieni i lywio’r system amddiffyn plant, ac i gymryd rhan lawn ym mhrosesau gwneud penderfyniadau.

Rôl y Eiriolwr Rhieni

Eiriolwyr Rhieni 

  • Gweithio dan gyfarwyddyd rhieni
  • Ddim yn cynnig cyngor na barn a byth yn gweithredu heb ganiatâd y rhiant
  • Ddim yn barnu na gwneud penderfyniadau ar ran rhiant.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Rhieni TGP Cymru, yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n cefnogi rhieni sydd â phlentyn/plant dan 18 oed, ym maes amddiffyn plant.

Rydyn wedi sefydlu gwasanaethau yng Ngogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chwm Taf Morgannwg. Os ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hyn, os oes gennych chi blentyn neu blant dan 18 oed sy’n cael eu cefnogi gan y gwasanaethau amddiffyn plant, ac yn credu y gallech chi gael budd o gymorth eiriolaeth rhieni, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth: 

Gogledd Cymru
Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam

Canolbarth a Gorllewin Cymru
Sir Gâr, Ceredigion, Pembrokeshire a Phowys

Cwm Taf Morgannwg
Pen-y-Bont ar Ogwr, Merthyr Tydful, Rhondda Cynon Taff

Ebost: [email protected]

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

Os oes gennych brofiad o’n gwasanaeth eiriolaeth rhieni, naill ai’n rhiant, gofalwr neu weithiwr proffesiynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Anfonwch eich adborth yma.


Beth mae pobl yn ei ddweud am ein gwasanaeth

  • "Heb gael y gwasanaeth, byddwn i wedi cael llais tawel. Gyda chefnogaeth fy eiriolwr, roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gallu cael yr hyder i ofyn cwestiynau. Agorodd fy meddwl, felly roeddwn i'n gwybod beth oeddwn i'n gallu ei wneud. Fyddwn i ddim wedi bod yn y sefyllfa honno hebddi hi."
    Rhiant
  • "Rwyf wastad mor hapus i'ch gweld chi a'ch tîm yn ein cynadleddau. Rydych chi'n gwneud gwahaniaeth mawr i'n teuluoedd, ac rwyf mor ddiolchgar i chi hefyd."
    Person proffesiynol
  • "Roedd fy eiriolwr yn gallu egluro pethau mewn ffordd roeddwn i'n ei deall ac fe helpodd hynny i sicrhau bod y penderfyniadau'n bethau roeddwn i'n cytuno arnyn nhw."
    Rhiant
  • "Hoffwn eich gwneud yn ymwybodol o'r gwaith gwych y mae eich eiriolwr wedi'i wneud wrth gefnogi mam, fel ei Heiriolwr a gweithio ar y cyd â mi, yn ystod asesiad rhianta mam a'r achos Llys. Mae hi'n gyfathrebwr rhagorol, yn ddibynadwy, yn gyson, ac yn hawdd cysylltu â hi bob amser. Mae hi wedi cefnogi mam yn ddiwyd trwy broses hynod o llawn straen, a gwn fod mam wedi elwa'n aruthrol o hyn. Drwy gydol fy sesiynau gyda mam a'r eiriolwr, mae hi wedi sicrhau bod gan fam ddealltwriaeth dda o'r hyn a oedd yn cael ei drafod, ei archwilio, ac wedi cynnig esboniadau amgen priodol iddi a chefnogaeth emosiynol, pan fo angen. Rwy'n ddiolchgar iawn am ei phroffesiynoldeb, ei empathi, ei sensitifrwydd, a'r caredigrwydd y mae wedi'i ddangos tuag at mam. Mae hi'n glod i'ch gwasanaethau ac yn haeddu cydnabod ei rôl bwysig."
  • "Mae wedi fy helpu i ddeall fy hawliau ac wedi fy helpu i ddefnyddio fy llais i fynegi fy nymuniadau a'm teimladau, rhywbeth rydw i wedi cael trafferth ag ef o'r blaen."
    Rhiant
  • "Cyfathrebu rhagorol a welwyd rhwng yr eiriolwr a'r person yr oeddent yn ei gefnogi. Cefnogol iawn yn ystod trafodaethau anodd a chynigiwyd sicrwydd hefyd yn ôl yr angen."
  • "Mae eiriolaeth wedi helpu fy nealltwriaeth o'r broses ac, yn ei thro, wedi ei helpu i ddod yn llai brawychus. Mae gwybod bod gen i gefnogaeth wrth fynd i mewn i'r cynadleddau yn gwneud gwahaniaeth enfawr."
    Rhiant