Gwasanaeth Eiriolaeth Bae y Gorllewin
Sut allwn ni helpu?
Gwasanaethau sydd gennym i’w cynnig
Eiriolaeth – Rydym yn cynnig Gwasanaethau Eiriolaeth Proffesiynol i blant a phobl ifanc sy’n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Beth yw Eiriolaeth?
Mae eiriolaeth yn golygu cael rhywun i wrando arnoch chi. Gall eich helpu i ddweud beth rydych chi’n ei feddwl a sut rydych chi’n teimlo wrth y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am eich bywyd.
Gall eiriolaeth eich helpu i:
- gael dweud eich dweud
- gwybod a deall eich hawliau
- cymryd rhan mewn cyfarfodydd ac adolygiadau
- datrys pethau gyda’ch gweithiwr cymdeithasol neu’ch gofalwr
- cwyno.
Mae ein gwasanaeth eiriolaeth yn annibynnol – nid ydym yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Sut allaf i gysylltu?
Ffoniwch ni ar y rhif isod neu anfon neges atom drwy’r e-bost (cyfeiriad isod hefyd).
Mae gennym ffurflenni atgyfeirio hawdd i’w defnyddio ar gyfer rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ac rydym yn derbyn atgyfeiriadau dros y ffôn hefyd.
Plant a phobl ifanc – gallwch ffonio’r rhif ffôn rhad ac am ddim (isod) a gofyn am eiriolwr – mae mor hawdd â hynny – dim angen unrhyw ffurflenni!
Gwasanaethau Ymwelwyr Annibynnol
Efallai y byddwn ni hefyd yn gallu cynnig Gwasanaethau Ymweld Annibynnol i blant a phobl ifanc sydd yn derbyn gofal ac nad ydynt mewn unrhyw gysylltiad gyda’u teulu, neu sydd mewn cysylltiad cyfyngedig â’u teulu. Cysylltwch â ni ar rif y swyddfa isod am ragor o wybodaeth.
Cyfeiriad Prosiect
Abertawe
14 Pentref Busnes Tawe, Phoenix Way, Llansamlet, Abertawe, SA7 9LA
Ffyrdd o gysylltu â ni
Rhif ffôn Abertawe: 01792 794044
E-bost: wbas@trosgynnalplant.org.uk
Rhif rhadffôn: 0800 328 7289
Neges testun: 07864 032 921
Pwy sydd yn ein tîm
Melanie Thomas-Wilcox
Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol
Anthony Holling
Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol
Zoe Morgan
Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol
Emma Mullins
Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol
Peter Williams
EPA Achlysurol
Amanda Roderick
EPA Achlysurol (eiriolaeth nad yw’n cael ei gyfarwyddo)
Sandra Joy
EPA Achlysurol