Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu Gweithredu Adferol

Sut allwn ni helpu?

Mae’r Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu gan ddefnyddio Dulliau Adferol ar gael i deuluoedd sy’n profi gwrthdaro ac sydd angen cefnogaeth i ddatrys y gwrthdaro hwnnw. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu teuluoedd i ddod dros trafferthion drwy adeiladu, cynnal  a lle bo’r angen, trwsio perthnasau. Bydd aelodau teulu yn cael eu hannog i adnabod eu cryfderau, eu sgiliau ac adnoddau er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau.

Beth yw Cyfarfod Grwp Teulu?

O fewn cyfarfod grŵp teulu, gan ddefnyddio dulliau adferol, bydd aelodau o deuluoedd, ffrindiau ac unrhyw un perthnasol yn dod at ei gilydd i drafod a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr Ymarferydd yn gweithio gyda chi er mwyn eich cefnogi chi. Byddan nhw hefyd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer y cyfarfod a chyrraedd yno.

Pwy sydd a mynediad i’r gwasanaeth?

Gallwch chi gael mynediad i’n gwasanaeth os oes gan eich plentyn/person ifanc Weithiwr Cymdeithasol ei hun o fewn Gwasanaethau Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion neu Sir Benfro ac os ydych chi yn profi trafferthion teuluol ac angen cynllunio ar gyfer y dyfodol. Gallwch chi drafod y posibilrwydd o gael eich cyfeirio gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu gysylltu gyda ni i weld a yw’r cyfeiriad yn briodol.

Grŵp Cwrdd â’n Gilydd Aelodau Teulu Pen-y-bont ar Ogwr

I bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â phrofiad o’n gwasanaeth Cyfarfod Grŵp Teulu, y Grŵp Cwrdd â’n Gilydd i Aelodau Teulu yw eich cyfle chi i ddylanwadu ar ein gwasanaeth. Gallwch gymryd rhan drwy gyfweld staff a gwirfoddolwyr, a rhannu eich barn.

Darllen mwy >

Gallwch fynd i’r grŵp yn lleol neu ar-lein. I gymryd rhan, cysylltwch â ni ar 0330 236 7001 neu anfonwch e-bost i tgprafgm@tgpcymru.co.uk


Cyfeiriad Prosiect

4 Dunraven Place, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1JD

Ffyrdd o gysylltu â ni

Rhif ffôn: 0330 236 7001 E-bost: bcbcrafgm@tgpcymru.org.uk

Pwy sydd yn ein tîm

Melanie Thomas-Wilcox
Rheolwr Tîm
Angie Felkin-Heins
Uwch Gydlynydd CGTGA
Denise Jones
Gweinyddwr
Vicky Thomson
Uwch Gydlynydd CGTGA
Sabrina De Courcy
Uwch Gydlynydd CGTGA
Louise Ferguson
Cydlynydd CGTGA
Keith Buckler
Cydlynydd CGTGA
Gail Humphreys
Cydlynydd CGTGA
Amanda Cox
Cydlynydd CGTGA
Kerry Lama
Cydlynydd CGTGA
Tammie Jones
Cydlynydd CGTGA
Tina Byrne
Uwch Gydlynydd CGTGA
Melissa Rees
Cydlynydd CGTGA
Meriel Baldwin
Cydlynydd CGTGA