Gwasanaeth Cyfarfod Grŵp Teulu Dulliau Adferol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Rhieni sydd wedi Gwahanu a Theuluoedd mewn Cyfraith Breifat

Sut allwn ni helpu?

Mae’r Gwasanaeth Rhieni Sydd Wedi Gwahanu – Cyfarfod Grŵp Teulu ar gael i rieni sydd â phlant a phobl ifanc sy’n byw yn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Am fwy o wybodaeth darllenwch ein taflen >

Beth yw Cyfarfod Grŵp Teulu?

Mae’r gwasanaeth Cyfarfod Grŵp Teulu yn galluogi aelodau o’r teulu, gan gynnwys y rhai hynny yn y rhwydwaith teulu a ffrindiau ehangach, i gyfarfod gyda’i gilydd i ddod o hyd i atebion i anawsterau y maent yn eu hwynebu. Bydd y cyfarfodydd yn rhoi cyfle i wneud cynlluniau am blentyn / person ifanc a bydd angen i deuluoedd ysgwyddo cyfrifoldeb wrth benderfynu sut i ddiwallu anghenion eu plentyn/person ifanc.

Bydd y teulu’n defnyddio sgiliau a phrofiad eu teulu a’u ffrindiau ehangach yn ogystal â gweithwyr proffesiynol pan fo hynny’n briodol. Bydd cyfarfodydd yn rhan o broses sy’n hwyluso gwneud penderfyniadau a chyfathrebu o fewn teuluoedd. Bydd aelodau’r teulu yn cyfarfod yn unigol gyda’u Cydlynydd Cyfarfod Grŵp Teulu ac yn siarad am yr hyn sydd wedi digwydd a sut mae’r sefyllfa’n effeithio arnyn nhw. Byddan nhw’n cael eu hannog i feddwl am ffyrdd a all wella eu sefyllfa.

Bydd y Gwasanaeth yn darparu cymorth i deuluoedd y gallai fod angen help arnyn nhw yn ystod cyfnod o wahanu neu berthynas yn chwalu lle gall fod effaith ar blant.  Gallwn ni helpu a chefnogi drwy gynnull a hwyluso Cyfarfod Grŵp Teulu er mwyn:

  • Grymuso teuluoedd a’u galluogi i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain i’w trafferthion
  • Teuluoedd yn cymryd cyfrifoldeb am gynllunio mewn ymateb i bryderon pobl eraill
  • Teuluoedd yn defnyddio’r cryfderau a’r adnoddau o fewn eu rhwydweithiau eu hunain
  • Teuluoedd yn perchnogi’r problemau a’r atebion ac felly maent wedi ymrwymo i wneud i’w cynlluniau weithio
  • Teuluoedd yn gwella’r ffordd y maen nhw’n cyfathrebu â’i gilydd a hefyd gyda gweithwyr proffesiynol, gan wella’r ffordd y maen nhw’n gwneud cynlluniau a phenderfyniadau.

Beth rydym yn gobeithio ei gyflawni?

  • Atal chwalu perthynas teulu cyfan
  • Ail uno teuluoedd lle bu gwahanu
  • Gwella cyfathrebu rhwng rhieni a gofalwyr
  • Cefnogi a gwella cyfathrebu rhwng rhieni a gofalwyr sydd wedi gwahanu.

Sut gallaf i gysylltu?

Os hoffech atgyfeirio at y gwasanaeth, ffoniwch ein llinell gymorth ar 0330 236 7001 neu gofynnwch am ffurflen atgyfeirio drwy anfon e-bost atom i tgpfgm@tgpcymru.org.uk 

Sylwch fod angen caniatâd rhieni gwybodus ac mae ei angen arnom er mwyn i ni dderbyn atgyfeiriad. Gallwch ofyn i weithiwr proffesiynol ein ffonio ar eich rhan. Bydd un o’r Uwch Gydlynwyr Gwasanaeth Grŵp Teulu yn eich ffonio’n ôl ac yn trafod gwybodaeth yr atgyfeiriad gyda chi. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim.


Cyfeiriad Prosiect

4 Dunraven Place, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1JD

Ffyrdd o gysylltu â ni

Rhif ffôn: 0330 236 7001 E-bost: bcbcrafgm@tgpcymru.org.uk