Amser Holi Sêr Diogel yn erbyn y Gweithwyr Proffesiynol #TGPQT

May 26, 2020

Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, y Sêr Diogel, yn gofyn cwestiynau i nifer o weithwyr proffesiynol sydd â’u rôl i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Dechreuodd y Sêr Diogel eu ‘Her Amser Holi’ trwy gwrdd â Phrif Weithredwr TGP Cymru, Jackie Murphy, ar Zoom. Gofynasant ddeg cwestiwn i ddarganfod mwy amdani a beth yw ei chynghorion gorau yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau atebion Jackie gymaint ag y gwnaethon ni… a gwyliwch y gofod hwn i gael mwy o atebion gan y gweithwyr proffesiynol!

Pam na wnewch chi gymryd her #TGPQT eich hunain? ☺

Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion