Tîm Pasbort Cyfathrebu Gogledd Cymru yn sicrhau cyllid i ehangu eu gwasanaethau i Wrecsam ac Ynys Môn

May 9, 2025

Derbyniodd Gwasanaeth Pasbort Cyfathrebu Gogledd Cymru newyddion gwych fis yma am ein cais am gyllid i Sefydliad Elusennol y Seiri Rhyddion.

Cymeradwyodd Pwyllgor Grantiau Elusennol Sefydliad Elusennol y Seiri Rhyddion, a Seiri Rhyddion Gogledd Cymru, ein cais a chytuno i ariannu ehangu ein gwasanaeth i siroedd Wrecsam ac Ynys Môn dros y ddwy flynedd nesaf.

Felly, ynghyd â’r cyllid gan y Loteri Genedlaethol, mae hyn yn golygu y byddwn bellach yn gallu darparu pasbortau cyfathrebu i blant a phobl ifanc ag anawsterau cyfathrebu ym mhob un o’r chwe sir yn y gogledd tan o leiaf ddiwedd mis Mai 2027.

Rydym am ddiolch yn fawr iawn i Seiri Rhyddion Gogledd Cymru am ein helpu i ddarparu hyd yn oed mwy o basbortau cyfathrebu a’r gwasanaeth mawr ei angen i blant a phobl ifanc yn Ynys Môn a Wrecsam.

Dyma’r ddolen i dudalen tîm Pasbort Cyfathrebu Gogledd Cymru i gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth:

Gwasanaeth Pasportau Cyfathrebu Gogledd Cymru