Restorative Approaches Family Group Meeting Services

GWEINYDDWR PROSIECT

Mae TGP Cymru yn elusen yng Nghymru sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac mae wedi bod yn darparu gwasanaethau ledled Cymru ers 20 mlynedd.

Mae’r Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu Dulliau Adferol (CGTDA) ar gyfer teuluoedd sy’n profi gwrthdaro o fewn eu teulu ac sydd angen cymorth i ddod o hyd i atebion. Mae’r gwasanaeth yn helpu teuluoedd i oresgyn anawsterau trwy greu, cynnal a lle bo angen atgyweirio perthnasoedd. Bydd aelodau’r teulu yn cael eu hannog i nodi eu cryfderau, eu sgiliau a’u hadnoddau i wneud newidiadau cadarnhaol. Mae’r ardal wasanaeth bresennol yn cwmpasu awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf.

Rydym yn ceisio recriwtio Gweinyddwr Prosiect CGTDA am 15 awr yr wythnos gydag ymagwedd hyblyg at weithio dros o leiaf 3 diwrnod.  Byddwch yn cefnogi Tîm Cyfarfodydd Grŵp Teulu gan ddefnyddio Dulliau Adferol gyda thasgau gweinyddol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau TGP Cymru sy’n sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol a chontractiol y sefydliad.

Noder mai rôl dros dro yw hon gyda chyllid cyfredol tan 31 Mawrth 2027.

Bydd deiliad y swydd yn gallu:

  • Cynhyrchu canlyniadau o ansawdd mewn modd sy’n canolbwyntio ar wasanaethau ac yn amserol ac wedi ymrwymo i gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt
  • Gweithio’n dda gyda chydweithwyr a phartneriaid a chydnabod gwahanol syniadau, safbwyntiau a chefndiroedd eraill
  • Cynllunio a threfnu gwaith a rheoli amser yn effeithiol
  • Cyfathrebu’n effeithiol h.y. mynegi gwybodaeth a syniadau mewn modd clir, cryno a chywir; gwrando yn weithredol a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu
  • Bod yn agored i ddulliau a syniadau newydd, ymateb yn gadarnhaol i newid ac addasu’n gyflym i sefyllfaoedd newydd
  • Chwilio am gyfleoedd ar gyfer dysgu parhaus a thwf proffesiynol
  • Defnyddio cynhyrchion Microsoft Office gan gynnwys Office 365

Bydd angen iddynt hefyd ddangos dealltwriaeth gadarn a record o gyflawniad yn y canlynol:

  • Gweinyddu mewn amgylchedd swyddfa/ Profiad o ddefnyddio platfformau rhithwir.
  • Defnyddio Office 365
  • Gweithredu systemau ariannol gan gynnwys arian mân, monitro a rheoli cyllideb
  • Delio ag aelodau o’r cyhoedd ac asiantaethau eraill

Croesewir ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’u hoedran, anabledd neu darddiad hiliol. Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Am ragor o fanylion a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Melanie Thomas-Wilcox ar 07951 557230 neu e-bostiwch [email protected]

Mae ffurflen gais a disgrifiad swydd ar gael yn www.tgpcymru.org.uk/cy/cymryd-rhan/jobs/

I wneud cais ffurfiol, dychwelwch ffurflen gais wedi’i chwblhau i [email protected]

(Dim ond gyda ffurflen gais wedi’i chwblhau y gallwn dderbyn CV).

Sylwch fod TGP Cymru fel arfer yn penodi ar ddechrau’r raddfa gyflog

 

Cyflog: £25,300 Pro Rata
Oriau: 15
Dyddiad cau: 23/03/2026

Llawrlwythiadau y swydd wag