Mae TGP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd bregus, ar draws Cymru am 23 mlynedd.
Rydym yn darparu Gwasanaeth Pasbort Cyfathrebu i blant a phobl ifanc sydd ag anawsterau cyfathrebu ar draws y chwe sir yng Ngogledd Cymru. Oherwydd ein llwyddiant diweddar wrth ennill cyllid ychwanegol, rydym wrthi’n recriwtio Ymarferydd newydd. Bydd y rôl yn cynnwys teithio helaeth ledled Gogledd Cymru i gwrdd â chleientiaid yn eu cartrefi eu hunain. Rhan-amser 22.5 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i’w gytuno ond gall fod yn hyblyg. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â diddordeb mewn hawliau blant, profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phlant and phobol ifanc gydag anawsterau cyfathrebu. Rhaid i ymgeiswyr hefyd allu dangos gwerthoedd TGP Cymru. Mae gwerthoedd yn bwysig i ni, ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n credu yn ein gwerthoedd gymaint ag yr ydym ni. Os hoffech chi fod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i wella deilliannau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn awyddus i weithio i sefydliad blaengar, gwnewch gais. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu. Am ragor o fanylion ac am sgwrs anffurfiol, cysyllter â Julie Lloyd ar 07494 023056 neu e-bostiwch [email protected] Pecyn cais ar gael yn www.tgpcymru.org.uk, neu e- bostiwch: [email protected] (Dim ond gyda ffurflen gais wedi’i chwblhau y gallwn dderbyn CVs). |
Y DYDDIAD CAU ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais: DYDDIAD Y CYFWELIAD: 30 Medi 2025 |