Eiriolwr Cymunedol yn gyd-awdur papur academaidd am yr ‘European Journal of Cancer Care’

May 11, 2021

Mae Leeanne Morgan, Eiriolwr Cymunedol gyda’n Prosiect Teithio Ymlaen yn gyd-awdur papur academaidd sydd newydd ei gyhoeddi yn yr ‘European Journal of Cancer Care’:

‘Cancer diagnosis, treatment and care: A qualitative study of the experiences and health service use of Roma, Gypsies and Travellers’

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ddefnyddio dulliau ymchwil cymheiriaid gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac roedd Leeanne yn gweithredu fel ymchwilydd a chynghorydd i dîm Prifysgol Abertawe dan arweiniad yr Athro Louise Condon.

Mae hyn yn gyflawniad gwych a bydd yr ymchwil ei hun yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac yn dylunio gwell cymorth a gwasanaethau iechyd i deuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Rydym yn falch iawn o Leeanne ac wrth ein boddau bod ei gwaith wedi cael ei gydnabod fel hyn – ac y bydd yn gwneud gwahaniaeth.

Gallwch ddod o hyd i’r astudiaeth yma http://doi.org/10.1111/ecc.13439