Gofyn i’ch cwmni ein dewis ni fer Elusen y Flwyddyn neu ein gwahodd i siarad gyda staff am ein gwaith
Cynnal eich digwyddiad codi arian eich hun fel ‘Te Parti TGP’, noson caws a gwin, cynnal parti cyfnewid dillad, golchi ceir y cwmni, ffair grefftau, disgo’r 60au (70au, 80au neu beth bynnag fo eich cyfnod!) neu unrhyw beth arall y gallwch feddwl amdano sy’n hwyl
Gwirfoddoli i fod yn gasglwr bwced yn un o’n casgliadau i’w cynnal dros y flwyddyn nesaf – efallai y gallwch wneud hyn gyda ffrindiau neu fel grŵp?
Gwirfoddoli i fod yn gydlynydd tun elusen yn eich ardal gan ofalu am safleoedd lleol a gosod tuniau mewn tafarndai, siopau, canolfannau hamdden ac ati.
Enwebu TGP Cymru fel yr elusen i’w chefnogi yn eich archfarchnad leol lle mae ganddynt gynllun tocyn gwyrdd/glas
Cynnal noson cwis yn eich tafarn leol
Ymuno â’n ‘Clwb 100’ ac efallai ennill gwobr yn ein raffl fisol
Sefydlu rhodd fisol drwy reol sefydlog
Ymgymryd â digwyddiad chwaraeon a noddir i ni fel Hanner Marathon Caerdydd, her y 3 Chop, Felothon, Her Nofio Mawr Cymru neu unrhyw fath arall o her a noddir
Dod yn Llysgennad Cymunedol a siarad gyda grwpiau a sefydliadau lleol fel Merched y Wawr/Clwb Rotari ac ati am waith yr elusen
Sefydlu grŵp ‘Ffrindiau TGP Cymru’ a rhedeg eich digwyddiadau codi arian a gwybodaeth eich hun – ffordd wych o ddod ynghyd gyda ffrindiau a chyd-weithwyr tra’n helpu plant a theuluoedd Cymru sydd angen cymorth ychwanegol
Ystyried gadael ‘Rhodd mewn Ewyllys’ i ni a helpu cenedlaethau’r dyfodol
Rhoi rhodd gan ddefnyddio’r botwm Rhoi uchod
Cysylltwch â TGP Cymru i gael gwybod mwy am unrhyw un o’r uchod neu i rannu eich syniad codi arian eich hun!
TGP Cymru
Cardiff University Social Science Research Park (SPARK)
sbarc
Heol Maindy
Caerdydd
CF24 4HQ
TGP Cymru yw enw gwaith Tros Gynnal Plant.
Rhif Elusen Gofrestredig 1099878 Wedi cofrestru fel cwmni cyfyngedig drwy warant rhif 04422485 (Cymru a Lloegr).
Swyddfa Gofrestredig: Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ – 02920396974 Dyluniwyd gan UGD
Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio'r safle hwn byddwn yn tybio eich bod yn hapus gyda hyn. Am fwy o wybodaeth, gweler ein Polisi Cwcis.