Cynnal digwyddiad cyn-filwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Feb 19, 2019

Cymerodd Tina a Laura o Dulliau Adferol Gwasanaeth Cyn-filwyr a Theuluoedd TGP Cymru ran mewn ‘Siop Un Stop’ yn stadiwm pêl-droed Dinas Caerdydd yr wythnos hon. Wedi’i gynnal gan Sefydliad yr Adar Gleision, roedd hwn yn gyfle gwych i unrhyw gyn-filwyr alw heibio a chyfarfod ag elusennau a sefydliadau sydd yno i roi cymorth.

Mae TGP Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Chyn-filwyr GIG Cymru yng Nghaerdydd a’r Fro i gefnogi cyn-filwyr, y sawl sy’n gadael gwasanaeth a’u teuluoedd ynghylch iechyd meddwl a pherthnasau, gan gefnogi’r teulu i symud ymlaen.