Estyniad 3 Blynedd i Gyllid Grantiau’r Loteri Genedlaethol ar gyfer Gwasanaeth Pasbort Cyfathrebu Gogledd Cymru

Jan 25, 2024

Cafodd Gwasanaeth Pasbort Cyfathrebu Gogledd Cymru newyddion gwych cyn y Nadolig. Gwnaeth Pwyllgor Cyllid y Loteri Genedlaethol gymeradwyo ein cais a chytuno i ariannu ein prosiect am y tair blynedd nesaf gyda’r cyllid yn dechrau o Wanwyn 2024.

Mae hyn yn golygu y bydd y prosiect yn gallu parhau i ddarparu pasbortau cyfathrebu i blant a phobl ifanc sydd ag anawsterau cyfathrebu yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Gwynedd tan o leiaf diwedd mis Mawrth 2027.

Rydyn ni eisiau dweud diolch yn fawr iawn i’r Loteri Genedlaethol am ein helpu ni i barhau i ddarparu’r gwasanaeth hollbwysig hwn.

Dyfyniad gan weithiwr cymdeithasol o Wynedd:

“Dyna newyddion gwych. Rwyf mor falch bod eich gwasanaeth wedi cael y cyllid. Mae’r hyn rydych chi’n ei wneud mor bwysig, ac mae’r adborth gan rieni bob amser yn gadarnhaol iawn. Diolch eto am y newyddion gwych.”

I ddysgu mwy am dîm Pasbort Cyfathrebu Gogledd Cymru, dilynwch y ddolen >