Lansio TGP Cymru

Aug 21, 2018

Lansiodd TGP Cymru (a elwid gynt yn Tros Gynnal) eu henw gwaith a’u brand newydd yn yr Eisteddfod yr wythnos hon. Rydym yn dathlu ein 16 mlynedd o weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru i wneud gwahaniaeth cadarnhaol, parhaus yn ystod adegau anodd yn eu bywydau.

Fe wnaeth plant ein helpu i chwythu’r canhwyllau ar ein cacen pen-blwydd a dweud wrthym beth yr oeddent yn ei ddymuno i holl blant Cymru.

Diolch i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am ein gwahodd i rannu eu stondin.