(CADW) Canolbarth a Gorllewin Cymru – Preswyl gyda thro!

Feb 17, 2021

Bob blwyddyn, mae’r grŵp Diogelu Rhanbarthol (CADW) yn cyfarfod am gyfnod preswyl dros benwythnos i weithio gyda’i gilydd ar brosiectau a gweithgareddau i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Nid yw hon wedi bod yn flwyddyn gyffredin, ond ni wnaeth hynny atal grŵp CADW rhag cyfarfod Preswyl gyda thro!

Mae grŵp CADW yn cynnwys grwpiau diogelu lleol o’r pedair sir, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Yn ôl ym mis Tachwedd, gwnaethom gyfarfod ar-lein am ddiwrnod llawn o weithgareddau, gweithdai a thrafodaethau.

Yn ystod y dydd, cafwyd dosbarth ffitrwydd, sesiwn celf greadigol, trafodaeth iechyd a lles, sesiwn coginio, sioe gêm a mwy. Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl a gwnaethpwyd hyn i gyd dros Zoom, nawr mae hynny’n sicr yn dra gwahanol i’r arfer!

Edrychwch ar y ffilm isod lle gallwch chi weld yn union beth wnaethon ni, mae’n ddiogel dweud ei bod hi’n llawer o hwyl i bawb a gymerodd ran! Gobeithio y gwnewch chi fwynhau cymaint ag y gwnaethon ni.

Arhoswch yn saff J 

Grŵp Diogelu Rhanbarthol Plant a Phobl Ifanc Canolbarth a Gorllewin Cymru (CADW).