Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion yn cynnal digwyddiad ‘Meic Agored’ ar gyfer plant a phobl ifanc.
Os oes gennych chi dalent yr hoffech chi ei fynegi yna rhowch wybod i ni! Gall fod yn unrhyw beth – canu, barddoniaeth, dawnsio, gwaith celf! Felly ewch at y meic a’r llwyfan neu ymunwch â ni i wylio!
Bydd y digwyddiad ar-lein yn cael ei gynnal yn fyw ar Zoom felly gwnewch yn siŵr bod gennych fynediad ato.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy ffôn neu Facebook!
Rydym yn edrych ymlaen at gael gweld eich talent