Prosiectau Sêr Saff Ceredigion

Dec 22, 2021

Mae gan Sêr Saff Ceredigion lawer ar y gweill ar hyn o bryd a mwy wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma fanylion eu holl weithgareddau ar hyn o bryd:

Syniadau Ryseitiau Iach I Blant A Phobl Ifanc

Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion wedi creu nifer o ryseitiau syml ac iach i blant a phobl ifanc. Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu fel rhan o’r pecynnau Ie- chyd a Lles Sêr Saff ar gyfer plant a phobl ifanc.

Cyfraniad I Hyfforddiant Diogelu Oedolion Gyda Cysur

Mae’r Sêr Saff wedi bod yn cefnogi CYSUR (Uwch Fwrdd Diogelu Rhanbarthol) ac yn mewnbynnu eu syniadau i sut y bydd Hyfforddiant Diogelu i Oedolion yn cael ei ddarparu.

Calendr Swyddogol Sêr Saff 2022 Ar Gyfer Plant A Phobl Ifanc

Mae calendr 2022 y Bwrdd Iau yn barod i’w ddosbarthu i blant a phobl ifanc Ceredigion, bydd hyn yn cael ei gynnwys fel rhan o’u pecynnau iechyd a lles.

Pecynnau Iechyd A Lles Y Sêr Saff

Bydd calendr Swyddogol 2022 y Sêr Saff, ryseitiau iach, gwybodaeth am ddio- gelu a chefnogaeth i blant a phobl ifanc i gyd yn cael eu cynnwys yn y pecyn hwn i hyrwyddo lles.

Animeiddiad Lles Y Sêr Saff Ar Gyfer Ysgolion A Chymunedau

Mae’r Sêr Saff yn y broses o greu animeiddiad ar gyfer ysgolion a chymunedau lleol. Eu nod yw cyflwyno’r prosiect hwn y flwyddyn nesaf trwy nifer o ysgolion a chymunedau yng Ngheredigion.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Sêr Saff gallwch eu dilyn ar eu cyfryngau cymdeithasol:

Facebook https://www.facebook.com/SerSaffSafeStars/

Instagram https://www.instagram.com/thesafestars/

Sianel YouTube https://www.youtube.com/channel/UC9JaekGJVBVGFxBSzCZnLJg

Gwefan https://www.tgpcymru.org.uk/what-we-do/ceredigion-safe-stars/