Amser Holi Sêr Diogel yn erbyn y Gweithwyr Proffesiynol #TGPQT Wythnos 2

Jun 1, 2020

Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, y Sêr Diogel, yn gofyn cwestiynau i nifer o weithwyr proffesiynol sydd â’u rôl i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Cymru. 

Yr wythnos hon cyfarfu’r Sêr Diogel ar Zoom gyda Sian Howys, Prif Swyddog Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Ceredigion. Rôl Sian yw sicrhau bod yr holl Blant a Phobl Ifanc ledled Ceredigion yn cael eu diogelu. 

Sian yw’r ail weithiwr proffesiynol i ymgymryd â’r ‘Her Amser Holi’ a wnaeth yn dda iawn yn ein barn ni. Cymerwch gip ar atebion Sian ac yna beth am ymgymryd â’r her #TGPQT eich hun!

Gwyliwch y gofod hwn ar gyfer y gweithiwr proffesiynol nesaf sy’n ymgymryd â her y Sêr Diogel ☺

Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion