Rhodd gan Cardiff Self Storage

Dec 21, 2018

Rydym yn falch iawn o dderbyn siec heddiw gan Cardiff Self Storage i gefnogi ein gwaith gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Hwb Nadoligaidd mawr!

Dywedodd Nick Williams (Cyfarwyddwr a Chadeirydd CSS) “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi’r gwaith gwych mae TGP Cymru yn ei wneud i helpu teuluoedd yng Nghymru. Ers y 1980au, rydym wedi cefnogi elusennau lleol cymunedol yng Nghaerdydd. Yn hanesyddol, yn gweithio gyda Menter Caerdydd a’r Fro a Cardiff Common Purpose, tra’n gweithio gyda GWCT Cymru yn ddiweddar. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb yn TGP Cymru.”

Derbyniodd Karen Jones, y Rheolwr Codi Arian y rhodd gan Chris Bryan o CSS yn The Maltings.