Ar 15 Medi, dechreuodd Sêr Saff Ceredigion ymgyrch o ryddhau rysáit iachus a blasus newydd bob dydd Mercher am bedair wythnos. Dyma’r canlyniadau!
Cafodd yr amrywiaeth eang o ryseitiau eu dewis oherwydd eu bod yn hawdd eu gwneud ac yn llawn o’r cynhwysion iawn i’ch gwneud chi deimlo’n wych. Daeth yr ymgyrch i ben yn ystod Wythnos Genedlaethol Cyri, a chadwodd y Sêr Saff y gorau tan olaf gyda’u rysáit Cyri Llysieuol Un Pot.