TGP Bwrdd yr Ymddiriedolwyr swydd wag

Apr 7, 2022

Mae TGP Cymru awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl frwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn pobl â chefndir, gwybodaeth a phrofiad o fyd busnes, cyllid, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus neu’r cyfryngau.

TGP Cymru yw’r brif elusen yng Nghymru, sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd i hyrwyddo a gwireddu eu hawliau. Mae TGP Cymru yn cynnal prosiectau ar hyd a lled Cymru sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys Eiriolaeth, Cyfranogi, Cyfarfodydd Grŵp Teulu, gwasanaethau Ymgysylltu Adferol i Gyn-filwyr a’u teuluoedd, gwasanaethau cymorth digartrefedd i’r rhai sy’n gadael Gofal, ymgynghori yn y gymuned a gwasanaethau eirioli i deuluoedd Sipsiwn, Teithwyr a Roma yn ogystal â gwasanaethau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sy’n Ffoaduriaid a Phlant a Phobl Ifanc ar eu Pen eu Hunain.

Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o Gymru a phob carfan o’r gymuned waeth beth yw oedran, anabledd neu darddiad hiliol yr ymgeiswyr. Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae swydd Ymddiriedolwr yn galw am ymrwymiad cymedrol o ran amser ac mae’n swydd ddi-dâl, ond gellir hawlio treuliau teithio. Cynhelir cyfarfodydd ffurfiol y Bwrdd bob chwarter ar hyn o bryd. Bydd TGP Cymru yn gwneud cais i Wasanaeth Datgelu Gwybodaeth y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar ran darpar Aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Os hoffech trefnu sgwrs anffurfiol efo Jackie Murphy, Prif Swyddog Gweithredol, cysylltwch a Jenny Cuthbertson os gwelwch yn dda ar hradmin@tgpcymru.org.uk

Dyddiad Cau: yn parhau

Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch copi o eich CV a Llythyr Eglurhaol i hradmin@tgpcymru.org.uk