Mae TGP Cymru eisiau clywed eich barn

Feb 11, 2021

Trwy gydol mis Chwefror cewch gyfle i ddweud wrthym am eich profiadau yn ystod cyfyngiadau symud Covid 19 drwy lenwi ein harolwg naill ai ar-lein neu gyda’ch gweithwyr TGP Cymru.

Drwy lenwi’r arolwg a nodi e-bost cyswllt byddwch hefyd yn cael cyfle i gael eich cynnwys yn ein cystadleuaeth.

  • Y wobr 1af yw taleb £25
  • A’r 2il wobr yw taleb £10

Mae TGP Cymru wedi llofnodi’r Siarter Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc

Mae hyn yn golygu: Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon sy’n cael ei lunio gan farn pobl ifanc ac sy’n adlewyrchu eu hanghenion.

Felly sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed >