Arolwg Ymgysylltu â’r Wefan

Sep 13, 2021

Os ydych yn berson ifanc hoffem glywed eich barn ar wefan TGP Cymru. Mae’r pynciau’n cynnwys: eich barn ar ychwanegiadau arfaethedig, sut mae’n well gennych ddysgu am ein gwasanaethau a’r hyn yr ydych chi’n ei feddwl sy’n gwneud dylunio gwe da. Diben yr arolwg hwn yw rhoi dealltwriaeth i ni o’r hyn yr hoffai pobl ifanc ei weld ar y wefan a ble y dylem wneud gwelliannau.

Mae’n cymryd 5 munud i’w gwblhau ac nid yw’n gofyn am unrhyw wybodaeth adnabod ar wahân i oedran a lleoliad bras. Nid oes rheidrwydd arnoch i ateb pob cwestiwn, byddai unrhyw fewnbwn yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Cliciwch yma i gymryd yr arolwg