Amser Holi Sêr Diogel yn erbyn y Gweithwyr Proffesiynol #TGPQT Wythnos 9

Aug 3, 2020

Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, y Sêr Diogel, yn parhau i ofyn cwestiynau i nifer o weithwyr proffesiynol, o amrywiaeth o sectorau sydd â’u rôl i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Cymru. 

Wythnos yma cafodd y Sêr Diogel y pleser o  gyfarfod Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru. Mae Sally a’i thîm yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael gwybod am eu hawliau yn ogystal â chynnig cyngor. Maent hefyd yn siarad dros blant a phobl ifanc ledled Cymru gyfan ar faterion pwysig. I gael mwy o wybodaeth am waith y Comisiynydd Plant, ewch i https://www.childcomwales.org.uk/about-us/ 

Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i Sally amgymryd yr amser i gyfarfod â ni ac am gymryd rhan yn Her Sêr Diogel #TGPQT. Diolch Sally am rai atebion ardderchog hefyd. Cymerwch gip ar atebion y Comisiynydd yma

Pam na wnewch chi gymryd yr Her ‘Amser Holi’ eich hun! Mae’n wirioneddol dda ☺

Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion