Rydym yn cynnig Eiriolaeth Proffesiynol Annibynnol i blant a phobl ifanc sy’n byw yng ngogledd Cymru nad ydynt yn derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol neu CAMHS.
Nod eiriolaeth yw grymuso pobl ifanc sy’n agored i niwed drwy roi llais iddynt rannu eu meddyliau a’u teimladau, gan sicrhau eu bod yn cael eu clywed. Trwy roi gwybod iddynt am eu hawliau a darparu ffordd o gyfathrebu, mae’n rhoi mwy o lais iddynt mewn penderfyniadau a all effeithio ar eu bywydau.
Nod eiriolaeth yw cynorthwyo yn y meysydd canlynol:
Mae’r maen prawf ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn yn eang a bydd yn cynnwys pob person ifanc yng ngogledd Cymru, o oedran ysgol uwchradd (11-18 oed), nad yw’n gymwys ar hyn o bryd i gael gwasanaethau eiriolaeth statudol neu sy’n derbyn gwasanaeth gan CAMHS. Byddai materion yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i bobl ifanc sy’n dioddef o orbryder, hwyliau isel ac iselder, trafferthion o ran presenoldeb yn yr ysgol, bwlio neu’n dioddef oherwydd methiant teulu neu brofedigaeth.
Mae angen bod mater neu faterion clir i’r eiriolwr eu helpu gyda nhw, sydd â chanlyniadau diriaethol neu ddiweddbwynt y cytunwyd arno. Bydd y mater neu’r materion hyn yn cael eu diffinio gan y plentyn neu’r person ifanc eu hunain, ac ni fyddwn yn cefnogi materion y bernir eu bod yn rhai rhieni/gofalwyr neu weithwyr proffesiynol ym mywyd y plentyn neu’r person ifanc.
Gall pobl ifanc gyfeirio eu hunain yn uniongyrchol naill ai drwy’r manylion cyswllt ar ein tudalen we ar gyfer pobl ifanc, drwy neges destun, ffôn neu e-bost.
Ffyrdd o gysylltu
E-bost: [email protected]
Ffôn / Testun / WhatsApp: 07961398534
01286 238007