Rhaglen Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Ifanc
Sut allwn ni helpu?
Pa wasanaethau sydd gennym i’w cynnig
Eiriolaeth, Grŵp Cyfranogiad a gwaith ymgynghori, manteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddi a datblygu gwasanaethau a pholisi sy’n effeithio ar Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid hyd at 25 mlwydd oed yn unol â safbwyntiau’r defnyddwyr gwasanaeth.
Ein meini prawf/lle rydym yn gweithio
Mae’r gwasanaethau’n cwmpasu Cymru gyfan. Meini prawf gwaith achos EIRIOLAETH:
- Plant Digwmni sy’n Ceisio Lloches (UASC) nad ydynt yn derbyn gwasanaethau eiriolaeth statudol.
- Achosion Asesiadau Oedran y mae anghydfod yn eu cylch lle aseswyd fod person ifanc dros 18 mlwydd oed.
- Ceiswyr lloches gyda phroblemau penodol ynghylch addysg sydd rhwng 15 a 23 mlwydd oed.
- Ceiswyr lloches o dan 25 mlwydd oed gyda phroblemau lluosog a chymhleth.
Gallwch drafod anghenion eiriolaeth ac argaeledd Shona drwy gysylltu â hi’n uniongyrchol.
Mae cyfleoedd CYFRANOGIAD yn agored i Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid sydd rhwng 11 a 25 mlwydd oed o bob rhan o Gymru. Hoffai Lee Evans glywed gan unrhyw grwpiau o bobl ifanc sy’n bodoli eisoes neu unigolion a fyddai’n hoffi dweud eu dweud a a sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried mewn perthynas â darpariaeth gwasanaethau a pholisi sy’n effeithio arnyn nhw yng Nghymru.
GWIRFODDOLI Gall Lee a Shona helpu Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid rhwng 16 a 25 mlwydd oed fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru.
Bydd HYFFORDDIANT ar gyfer gweithwyr proffesiynol e.e. Eiriolwyr, gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr maeth ar gael yn fuan ac yn cael ei ddarparu gan TGP neu mewn cydweithrediad â phartneriaid.
CYFEIRIO at wasanaethau eraill mewn amrywiaeth o feysydd sy’n effeithio ar Geiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru.
Ffyrdd o atgyfeirio
Cysylltwch â Shona Ure ar gyfer atgyfeiriadau eiriolaeth a Lee Evans ar gyfer yr holl ymholiadau eraill.
Cyfeiriad Prosiect
Prif Swyddfa TGP, 12 Heol y Gogledd, Caerdydd, CF10 3DY
Ffyrdd o gysylltu â ni
Lee Evans
Rhif Ffôn: 07957 472070
E-bost: lee.evans@tgpcymru.org.uk
Shona Ure
Rhif Ffôn: 07931 507786
E-bost: shona.ure@tgpcymru.org.uk
Prif Swyddfa: 029 2039 6974
Pwy sydd yn ein tîm
Lee Evans
Rheolwr Datblygu
Shona Ure
Gweithiwr Achos Eiriolaeth