Gwerthusiad o Brosiect Ymweliadau Eirioli Preswyl COVID-19

Oct 12, 2021

Rydym yn falch o lansio canfyddiadau prosiect treialu diweddar ar Ymweliadau Eirioli Preswyl yng Nghymru a gynhaliwyd gan TGP Cymru yn ystod Pandemig COVID-19.

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio’r ymchwil a gynhaliwyd gan Dr Anne Crowley a gyhoeddwyd yn ein hadroddiad yn 2019 “O’r Golwg – Allan o Hawliau?”. Nododd ymchwil Dr Crowley, a ariannwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, fod ymweliadau eirioli preswyl yn fesur diogelu ychwanegol i blant sy’n cael eu lleoli yn y cartrefi hyn ac roedd sicrhau bod person annibynnol yn ymweld â’r cartrefi hyn yn rheolaidd yn un o argymhellion Ymchwiliad Waterhouse i gam-drin mewn cartrefi plant yn y gogledd yn 2000.

Ar yr adeg y cynhaliwyd yr ymchwil roedd 178 o gartrefi plant yng Nghymru, 23 ohonynt yn eiddo i awdurdodau lleol ac yn cael eu rhedeg ganddynt, a 155 yn cael eu rhedeg gan ddarparwyr sector annibynnol neu wirfoddol. Mae 100% o’r cartrefi plant a weithredir gan awdurdodau lleol yn comisiynu gwasanaeth ymweliadau eirioli preswyl, ond dim ond 5-10% o’r cartrefi plant a ddarperir gan y sector annibynnol – tua 22 cartref allan o 155 – sy’n darparu’r mesur diogelu ychwanegol hwn.

Mae hyn yn anghyson iawn, gan fod cartrefi sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yn cael eu harchwilio’n fwy manwl gan gynrychiolwyr a swyddogion etholedig. Mae’n arbennig o anghyson gan fod plant dan ofal awdurdodau lleol yn cael eu lleoli’n agosach at eu cymunedau cartref ac yn tueddu i weld eu gweithwyr cymdeithasol yn fwy rheolaidd, ond dyma’r rhai lle mae gwasanaeth Ymweliadau Eirioli Preswyl yn cael ei flaenoriaethu. I’r gwrthwyneb, mae plant a leolir mewn cartrefi plant sy’n cael eu rhedeg yn annibynnol yn tueddu i fod ymhellach oddi cartref ac yn dweud eu bod yn gweld eu gweithiwr cymdeithasol, aelodau o’u teulu a’u ffrindiau yn llai aml. O ganlyniad, mae plant yn y sector preifat yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy ynysig ac unig.

Ym mis Medi 2020 derbyniodd TGP Cymru Gyllid Brys gan WCVA i dreialu ymweliadau eirioli preswyl am ddim i 140 o gartrefi annibynnol ledled Cymru yn ystod y pandemig. Dim ond 37 o gartrefi a fanteisiodd ar y cynnig hwn. Ar 83 o ymweliadau, bu modd inni allu sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, ymateb i 12 mater a godwyd a chyfeirio 8 arall yn ôl at yr awdurdod lleoli. Yn ystod yr ymweliadau rhithwir hyn, ymdriniodd ein heiriolwr ymweliadau preswyl â materion gan gynnwys gofal cyffredinol yn y cartref plant a materion cyswllt ar gyfer plant a oedd wedi’u gwahanu oddi wrth eu rhieni a’u teulu.

Er ei fod yn llwyddiant, yn anffodus ers y prosiect treialu hwn dim ond 3 o’r cartrefi sydd wedi comisiynu gwasanaeth ymweliadau eirioli preswyl parhaus. Felly, mae TGP Cymru wedi ymrwymo’n gryf i ymgyrchu dros ymweliadau eirioli preswyl fel gofyniad ar gyfer Cofrestru ac Arolygu gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Os bydd hyn yn digwydd, credwn y bydd gan gannoedd o blant a phobl ifanc yn y system gofal yng Nghymru fesur diogelu ychwanegol yn erbyn trais a cham-drin drwy gael gwybod am eu hawliau a chael rhywun i sicrhau bod eu hawliau o dan CCUHP yn cael eu cynnal.

Cliciwch yma i ddarllen ein hadroddiad.