Digwyddiad Arloesi ym maes Eiriolaeth a Hawliau Plant yng Nghymru

Feb 5, 2020

Cynhaliodd TGP Cymru ddigwyddiad llwyddiannus yn y Senedd ar 4 Chwefror i ddathlu ac i rannu Arloesi ym maes Hawliau Plant ac Eiriolaeth yng Nghymru.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan David Melding a’r prif siaradwyr oedd Julie Morgan AC – y Dirprwy Weinidog Iechyd & Gwasanaethau Cymdeithasol, Sally Holland – Comisiynydd Plant Cymru, Diane Daniel – Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr TGP Cymru.

Hefyd, cyflwynwyd y ffilm ‘Oes unrhyw un yn gwrando’? yn esbonio eiriolaeth gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc gan Jade Pescoed a Zack Robinson o Grŵp Cyfranogi TGP.

 

Mae Jade a Zack wedi gweithio gyda Promo Cymru i ddatblygu’r ffilm hon, yn ogystal a gwneud y gwaith trosleisio, felly roedden nhw’n arbennig o falch o gyflawni hyn.

Yn ogystal â lansio’r ffilm, pwrpas y digwyddiad oedd:

Stori Newyddion BBC Wales >

Roedd ein Grŵp Gynghori Pobl Ifanc hefyd o’r farn y byddai’n dda iddyn nhw gael eu gwefan eu hunain, fel bod plant a phobl ifanc, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn gallu dysgu rhagor am Eiriolaeth yng Nghymru a gellir gweld hyn yn www.whatisadvocacy.cymru

Fe wnaeth ein pobl ifanc, gan gynnwys nifer a oedd wedi dod o ganolbarth a gorllewin Cymru, fwynhau yn arbennig gweld ACau a gwesteion eraill yn rhoi cynnig ar ein hidlydd Snap Chat newydd. Ewch i TGP Cymru ar yr Hidlydd Snap Chat os hoffech chi roi cynnig arni!