Digwyddiad – Arloesedd mewn Eiriolaeth a Hawliau Plant yng Nghymru
Jan 15, 2020
4 Chwefror 2020
Y Senedd, Bae caerdydd
12pm–1.30pm
Mae TGP Cymru yn cynnal digwyddiad i ddathlu a rhannu arloesedd mewn Eiriolaeth a Hawliau Plant yng Nghymru. Noddir y digwyddiad gan David Melding AC.
Y Siaradwyr Gwadd:
- Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
- Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
- David Melding AC, Cadeirydd y Grwp Trawsbleidiol ar gyfer Grwp y Plant sy’n Derbyn Gofal
- Pobl lfanc o Grwp Cyfranog i TGP Cymru.
Diben y digwyddiad yw:
- Adolygu’r Ymagwedd Genedlaethol at Eiriolaeth Statudol a’r Cynnig Gweithredol o Eiriolaeth ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru
- Arddangos gwaith Myfyrwyr Cyfathrebu Graffig Prifysgol De Cymru ar wybodaeth hyrwyddo ar gyfer eiriolaeth a CCUHP
- Dangosiad cyntaf ffilm gan bobl ifanc am yr Ymagwedd Genedlaethol at Eiriolaeth Statudol a’r Cynnig Gweithredol o Eiriolaeth
- Lansio’r Ymchwil: ‘O’r Golwg – Allan o Hawliau?’ Darpariaeth Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol mewn Cartrefi Plant yng Nghymru
I gadw eich lle, llenwch a dychwelwch yffurflen archebu sydd wedi’i hatodi erbyn i: [email protected]
Mae’r digwyddiad hwn am ddim a bydd lleoedd yn llenwi yn gyflym iawn.